Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru pwysig eleni.

Mae’r Prentis Peirianneg Fecanyddol, Stevie Williams wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn ac yn arbennig, am yr eildro mewn dwy flynedd, mae’r bartneriaeth ag Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUH) wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Bydd y dathliad blynyddol o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 36 yn y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau mewn seremoni rithwir ar Ebrill 29.

Mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr brwd prentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd Alec Thomas, Rheolwr y tîm dysgu seiliedig ar waith, Hyfforddiant Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC wrth ei fodd â’r newyddion, gan ddweud: “Rydyn ni’n falch iawn o fod ar y rhestr fer ar gyfer dau gategori eleni, mae stori Stevie yn ysbrydoliaeth i bawb sydd am newid eu dyfodol, ac mae Academi Prentisiaethau SBHU wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n bwysicach nag erioed yn y pandemig presennol.

Fel Coleg blaengar, rydym yn deall yr angen i recriwtio prentisiaid sydd â’r sgil a’r agwedd i symud ymlaen yn y gyrfaoedd o’u dewis sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol ag angen llawer o fusnesau, i greu gweithlu medrus ar gyfer y tymor hir.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn hynod o anodd ond rydyn ni wedi gweld y gorau mewn pobl hefyd, wrth iddyn nhw ddangos y ddawn, y sgiliau a’r ymrwymiad i lwyddo eu hunain a hefyd i gefnogi eraill.

“Mae prentisiaethau yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn caniatáu i bobl ennill cyflog wrth ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd. Rwy’n credu y byddan nhw’n hanfodol i’n helpu ni i adfer o effeithiau coronafeirws.”