Leanne yn Arwain y Ffordd

Efallai bod bywyd wedi aros yn ei unfan i lawer ohonom yn ystod y cyfnod clo, ond i Leanne Jones mae wedi bod i’r gwrthwyneb. Mae’r fam o dri wedi cael swydd newydd yng Ngholeg Castell-nedd (rhan o Grŵp Colegau NT) ac yn ogystal â hyn, hi yw’r fenyw gyntaf hefyd i gael ei phenodi’n Ddirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, (CBSCNPT) ac ni allai fod yn hapusach.

Mae’n amlwg bod Leanne yn hoffi cadw’n brysur ac yn ogystal â jyglo bywyd teuluol gyda’i gŵr Andrew a’u tri phlentyn, pob un o dan 11 oed, mae hi’n dod o hyd i amser i weithio fel Cynghorydd Ymgysylltu Busnes yn Uned Datblygu Busnes y Coleg. Yn ogystal â hyn, mae hi’n llywodraethwr mewn dwy ysgol gynradd yng Nghastell-nedd, yn Gynghorydd Tref Melincryddan ac yn Gynghorydd Sir, yn cynrychioli Tonna ar gyfer CBSCNPT, lle y mae hi hefyd yn Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd.

Ers dechrau ei gyrfa gyda CBSCNPT fel Prentis yn 2000, nid yw hi wedi edrych yn ôl. Treuliodd fwy na 16 mlynedd yn gweithio i’r Awdurdod a hefyd peth amser yn gweithio i AS Castell-nedd, Christina Rees fel Swyddog Cymorth Etholaethol. Fe wnaeth ei phrofiad a’i gwybodaeth mewn gwleidyddiaeth, rheolaeth ariannol, gweinyddu busnes, datblygu cymunedol, adfywio a Llywodraeth Leol ei gwasanaethu hi’n dda, ac yn 2017 fe’i hetholwyd yn gynghorydd Llafur ac i’r swyddi y mae hi’n eu cyflawni erbyn hyn.

Mae cael ei phenodi’n Ddirprwy Arweinydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref y Sir yn dod â balchder mawr ati hi ac mae’n rôl y bydd Leanne yn mwynhau i’r eithaf, wrth iddi gyfaddef iddi ddechrau ym maes gwleidyddiaeth i roi llais i bobl ac i wneud gwahaniaeth, a nawr mae ganddi gyfle i wneud hyn oll.

Dywedodd: “Dwi bob amser wedi teimlo’n gryf iawn am helpu pobl eraill, neu gefnogi unigolyn, grŵp neu ardal i gyrraedd ei lawn botensial. Sefais fel Dirprwy Arweinydd gan fy mod i’n teimlo y gallwn i wneud y rôl ac roeddwn i am wneud hyd yn oed yn fwy o wahaniaeth, ar draws Castell-nedd Port Talbot.  Dwi’n hynod falch ac mae’n fraint i fi fod y fenyw gyntaf i fod yn y rôl hon, a dyna esiampl i’w gosod nid yn unig i’m merch, ond i ferched a menywod eraill allan yna, nid yw bod yn wraig a mam yn ein dal ni yn ôl ac rydyn ni’n dal i allu cyflawni rolau boddhaus eraill. ”