Dosbarth Meistr Rhithiol gyda’r Artist Gweledol Kate Mercer

Cafodd myfyrwyr celf o Grŵp Colegau NPTC gipolwg ar sut beth yw bod yn artist gweithredol yng Nghymru pan roddodd yr artist gweledol Kate Mercer ddosbarth meistr rhithwir yr wythnos hon.

Mae Kate Mercer yn artist gweledol o Gasnewydd sy’n gweithio ar draws ystod o gyfryngau gan gynnwys ffotograffau, fideo, collage a thecstilau, i archwilio defnydd diwylliannol o ffotograffau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cof, hunaniaeth a chanfyddiad. Gan ddefnyddio delweddau y mae’n eu darganfod a rhai y mae’n eu cyrchu ei hun, fel mannau cychwyn, mae ei gwaith yn archwilio rôl ffotograffiaeth fel dogfen a chofnod hunan-luniedig.

Mae ei gwaith yn cael ei gadw mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.  Mae hi’n parhau i ddatblygu ac arddangos gwaith ar brosiectau a ariennir ledled Cymru a’r DU.

Yn ogystal ag adrodd ei stori am sut y daeth i mewn i’r diwydiant, rhannodd Kate ei gwybodaeth helaeth am fod yn arlunydd, ei gwaith a’i phrosiectau cymunedol a rhoddodd awgrymiadau a chyngor.

Hefyd, gosododd Kate dasg a oedd yn ymwneud â defnyddio synhwyrau cyffwrdd, sain, blas a theimlad i greu ffyrdd newydd o feddwl am brosiectau celf a sut y gallai’r gynulleidfa eu canfod neu ryngweithio â nhw.

Mwynhaodd y myfyrwyr Celfyddyd Gain a Chyfathrebu Graffig Safon Uwch y dosbarth meistr rhyngweithiol yn fawr. ”Mae’r gweithdy hwn wedi bod yn ddiddorol iawn ac wedi fy ngalluogi i addasu fy mhrosiect, diolch!” meddai Alicia Alsop-Butler

Ychwanegodd eraill:

“Diolch am heddiw, dysgais lawer”.

”Diolch yn fawr, mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld pethau o safbwynt gwahanol”

Roedd y darlithydd Celf a Dylunio Ben Meredith o Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd bod y Coleg wedi gallu cynnal sgyrsiau yn rhithiol, a dywedodd, “Mae mor bwysig i fyfyrwyr gael y cyfle i ddysgu gan bobl sydd wedi llwyddo mewn diwydiannau ac rwyf mor falch bod dros 50 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan. Mae’n hanfodol cyfathrebu â phobl greadigol sefydledig eraill yn enwedig ar ôl cyfnod o ynysu i lawer o fyfyrwyr. Mae’r arbenigwyr hyn yn atgyfnerthu dysgu, yn ehangu creadigrwydd ac yn gwella cyflogadwyedd.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o waith Kate ar ei gwefan yn katemercer.co.uk.