Cipio Medalau Aur, Arian ac Efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae myfyrwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC yn dathlu casgliad arbennig o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

Yn y gyntaf o ddwy seremoni wobrwyo rithwir yn dathlu dosbarth 2021, enillodd cyfanswm o 13 o fyfyrwyr fedalau yn y gyfres o gystadlaethau lleol a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill. Cynhaliwyd y cystadlaethau ar-lein neu mewn coleg lletya wrth i bethau newid fesul wythnos wrth i’r cyfnod clo barhau. Daeth y sgiliau a ddangoswyd gan gystadleuwyr ym meysydd Gwyddor Fforensig, Cyfrifiadura a TG, Therapi Harddwch, Trin Gwallt a Chyfrifyddiaeth.

Daeth medalau aur dwbl gan y myfyrwyr cyfrifyddiaeth Teri Davies o Ben-y-bont ar Ogwr a Kelly Hammett o Lansawel, gyda’r ddwy yn astudio diploma Uwch AAT mewn cyfrifyddiaeth.  Cipiodd cyfrifyddiaeth dair medal efydd arall hefyd. Enillodd fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG fedal arian i Ben Chappell yn y categori dylunio gwe ynghyd â thair medal efydd, ac ym maes Therapi Harddwch medal arian arall i’r therapydd harddwch Rosie Newton a thair medal efydd.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

Bydd yr ail seremoni wobrwyo rithwir yn cael ei chynnal ddydd Iau 27ain Mai lle bydd yr holl feysydd sgiliau eraill yn cael eu dathlu.

Dywedodd Eddy Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae’r ffaith bod 13 o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w crefftau ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y coleg, hyd yn oed yn ystod pandemig.

Rydym yn gyson yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf oll ar draws holl safleoedd ein coleg. Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr heno, ac rwy’n llawn cyffro ar gyfer y digwyddiad nesaf ac i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gymryd rhan yn WorldSkills.”

Dywedodd Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yn Ngrŵp Colegau NPTC: ‘Mae sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau a’r hyfforddiant hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle yn bwysicach fyth ar ôl covid.  Mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed, ac mae cystadlaethau fel hyn yn helpu i godi dyheadau ein pobl ifanc a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi.”

Dyma restr lawn o’r enillwyr:

Cyfrifyddiaeth Grŵp NPTC Teri Davies Aur
Cyfrifyddiaeth Grŵp NPTC Kelly Hammett Aur
Dylunio Gwe Grŵp NPTC Ben Chappell Arian
Dylunio Gwe Grŵp NPTC Cameron McDonald Efydd
Sgiliau Cynhwysol: TGCh Grŵp NPTC James Ducay Efydd
Diogelwch Rhwydweithiau TG Grŵp NPTC Sam Howard Efydd
Cyfrifyddiaeth Grŵp NPTC Rachel Morris Efydd
Cyfrifyddiaeth Grŵp NPTC Caitlin Thomas Efydd
Cyfrifyddiaeth Grŵp NPTC Rebecca Smith Efydd
Therapydd Harddwch (H&F) Grŵp NPTC Rosie Newton Arian
Therapydd Harddwch (H&F) Grŵp NPTC Aimee Nurse Efydd
Therapydd Harddwch (H&F) Grŵp NPTC Ariyarnna Tidbury Efydd
Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) Grŵp NPTC Lucy Lewis Efydd