Myfyrwyr yn Ychwanegu at Trawiadol o Fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Ychwanegodd myfyrwyr Grŵp NPTC at gasgliad trawiadol o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar gyda medalau yn cael eu cipio ar draws sawl maes.

Mae myfyrwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl ennill 13 medal yn yr ail o ddwy seremoni wobrwyo rithwir sy’n dathlu dosbarth 2021, gan gynnwys pum medal aur o’r crefftau Adeiladwaith a Gofal Plant.  Llwyddodd y Coleg hefyd i ennill 10 medal arbennig ar draws y crefftau adeiladwaith gan gipio’r cwbl mewn Gwaith Coed a Phlastro gan fynd â medalau Aur, Arian ac Efydd adref yn y ddwy grefft.

Rhedodd y gyfres o gystadlaethau lleol rhwng Ionawr ac Ebrill ac mae bellach yn golygu bod cyfanswm y medalau a ddyfarnwyd yn 26 anhygoel, sef saith medal Aur, chwe Arian ac 13 medal Efydd.

Roedd y sgiliau a ddangoswyd ar gyfer yr ail seremoni yn dathlu cystadleuwyr mewn Paentio ac Addurno, Gwaith Brics, Plastro, Gwasanaeth Bwyty, Gofal Plant, Gwaith Coed, Gwaith Saer, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sgiliau Cynhwysol ac Arlwyo a Chelfyddydau Coginio.

Daeth y pum medal aur gan y myfyrwyr Paul Mason (Paentio ac Addurno), Keelan Marney (Gwaith Brics), Johnny Donaldson (Plastro), Sammy Young (Gwaith Coed) a Rhiannon Hanford (Gofal Plant).

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

Dywedodd Eddy Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae’r ffaith bod 13 o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w crefftau ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y coleg, hyd yn oed yn ystod pandemig.

Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i’w gwaith cwrs. Mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i safonau uchel iawn ar draws holl safleoedd ein coleg. Rwy’n falch iawn o’r holl enillwyr heno, ac rwy’n llawn cyffro ar gyfer y digwyddiad nesaf ac i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gymryd rhan yn WorldSkills UK.”

Dywedodd Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yn Ngrŵp Colegau NPTC: ‘Mae sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau a’r hyfforddiant hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle yn bwysicach fyth ar ôl covid.  Mae angen hyn nawr yn fwy nag erioed, ac mae cystadlaethau fel hyn yn helpu i godi dyheadau ein pobl ifanc a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi.”

Dyma restr lawn o’r enillwyr:

Cyfrifyddiaeth Teri Davies Aur
Cyfrifyddiaeth Kelly Hammett Aur
Dylunio Gwe Ben Chappell Arian
Dylunio Gwe Cameron McDonald Efydd
Sgiliau Cynhwysol: TGCh James Ducay Efydd
Diogelwch Rhwydweithiau TG Sam Howard Efydd
Cyfrifyddiaeth Rachel Morris Efydd
Cyfrifyddiaeth Caitlin Thomas Efydd
Cyfrifyddiaeth Rebecca Smith Efydd
Therapydd Harddwch (H&F) Rosie Newton Arian
Therapydd Harddwch (H&F) Aimee Nurse Efydd
Therapydd Harddwch (H&F) Ariyarnna Tidbury Efydd
Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) Lucy Lewis Efydd
Paentio ac Addurno Mai Ball Efydd
Paentio ac Addurno Paul Mason Aur
Gwaith Brics Kellan Marney Aur
Gwaith Brics Craydon Rive Arian
Plastro Kian Brown Arian
Plastro Johnny Donaldson Aur
Plastro Thomas Johns Efydd
Gofal Plant Rhiannon Hanford Aur
Gwaith Coed Dafydd Jenkins Efydd
Gwaith Coed Thomas Morgan Arian
Gwaith Coed Sammy Young Aur
Sgiliau Cynhwysol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Levi Storey Arian
Sgiliau Cynhwysol: Arlwyo Emma Bennet Efydd