Joe Talentog yn Rhyddhau ei Albwm Cyntaf yn ystod y Cyfnod Clo

Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio Grŵp Colegau NPTC, Joe Jones o’r Drenewydd ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun.

Cyflwynwyd Joe i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad sy’n gerddor.  Fodd bynnag, roedd wedi cyrraedd ei arddegau cyn iddo ddechrau cymryd mwy o ddiddordeb mewn chwarae.  Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy a chyda chyngor a thiwtorialau o’r rhyngrwyd cafodd y rhyddid i fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun.

Yn ystod y cyfnod clo, daeth Joe o hyd i fwy o amser i fod yn fyfyriol o safbwynt ei gerddoriaeth a’r hyn oedd yn digwydd yn y byd o’i gwmpas.  Cafodd ei hun yn datblygu pryder a thosturi tuag at y rhai a oedd wedi profi rhyfel a threulio amser mewn amgylcheddau a effeithiwyd gan ryfela. Cynyddodd ei ddiddordeb yn hyn pan glywodd am ffrind iddo yn cael ei benodi i weithio yn y lluoedd arfog.  Penderfynodd ysgrifennu albwm a oedd yn archwilio taith milwr yn dychwelyd o’r rhyfel ag anhwylder Straen Wedi Trawma, PTSD.  Roedd wedi ymgolli mewn cerddoriaeth Jazz a Blues ac wedi mwynhau doniau artistiaid gan gynnwys Miles Davis.

Recordiwyd yr albwm ‘We Were Just There’ gartref gan ddefnyddio ei gyfrifiadur personol yn unig – gweithfan sain ddigidol, gitâr a phiano.  Datblygodd y strwythur i adrodd y stori trwy’r tempo, y rhythm a strwythur y cordiau a oedd hefyd yn cynnwys effeithiau wedi’u samplu o gri babanod i dyrfaoedd a seirenau.  Mae’r darn modern hwn o gerddoriaeth wir yn ceisio gwneud cysylltiad â phrofiadau rhywun sy’n dychwelyd adref ar ôl rhyfel, yn cwympo mewn cariad â chael babi, yna’n brwydro ag emosiynau ac yn olaf dyfodiad dementia wedi’i symboleiddio gan newid o gitâr i biano i bortreadu atgofion sy’n pylu wrth i’r meddwl waredu popeth a welwyd a’r cysylltiadau emosiynol.

Dywedodd Joe, ‘Rydw i wedi dysgu llawer o’r profiad hwn heb wybod fawr ddim am recordio a sain o’r blaen’. Dywedodd iddo benderfynu rhyddhau’r albwm trwy youtube heb gost er mwyn cyrraedd cynulleidfa. Pan ofynnwyd iddo a oedd yn bwriadu gwneud albwm arall, dywedodd Joe, ‘Wel, mwynheais y profiad ond hefyd roedd yr ynysu yn ystod y cyfnod clo yn golygu bod gen i fwy o amser ar gael na’r arfer i’w ymroi i’w gynhyrchu. Cawn weld, efallai. ‘

Dywedodd y darlithydd Elizabeth Hebden: ‘Mae talentau Joe wedi creu cymaint o argraff arnom i gyd ac rydym yn falch o’i ymroddiad i archwilio’r cyfrwng hwn, gan ychwanegu elfen arall at ei allu fel artist’.