GCSEPod – Addysg Yn ôl y Galw Yng Ngrŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC yn llawn cyffro i gyhoeddi ei fod wedi buddsoddi yn GCSEPod, y darparwr cynnwys ac adolygu digidol arobryn.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio ar unrhyw un o’r rhaglenni TGAU Saesneg a Mathemateg a Skills Forward yn cael mynediad i lyfrgell GCSEPod o ‘Pods’, fideos 3-5 munud i gyflwyno gwybodaeth mewn cyfnodau byr. Bydd yr adnodd deniadol a hwyliog newydd hwn yn helpu pob myfyriwr i fagu hyder, nodi bylchau ac anfon adnoddau yn awtomatig at bob myfyriwr i helpu i gryfhau eu gwybodaeth.

I gyd-fynd â hyn, mae GCSEPod yn falch iawn o gynnig gweminarau i rieni i helpu i edrych ar ffyrdd o gefnogi rhieni a gwarcheidwaid yn llawn i ennyn diddordeb eu plentyn er mwyn dysgu a datblygu eu sgiliau Saesneg a Mathemateg yn rhwydd.  Trwy gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cawsant lwyddiant mawr yn ymgysylltu a chefnogi rhieni trwy eu sesiynau byw. Bydd eu hwylusydd rhieni preswyl, Joanne Winters unwaith eto yn tywys rhieni ar sut i annog eu plentyn i ddysgu trwy GCSEPod gydag awgrymiadau a chyngor ar barhau â momentwm yn y cartref.

Cyrchwch y gweminarau am ddim yma