Yn dymuno cael gyrfa mewn Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Os ydych chi wedi bod eisiau gweithio gyda phlant erioed, neu mewn lleoliad gofal plant, yna nid yw’n rhy hwyr i ymuno â chwrs BTEC Lefel 2  mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â phersbectif Gofal Plant yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ym mis Medi.

Mae diplomâu, BTEC a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i ddysgu mewn ffordd ymarferol, am faes swydd penodol. Maent yn cyflwyno dull ymarferol a byd go iawn o ddysgu, gan sicrhau bod gennych brofiad o’r byd gwaith heb aberthu unrhyw ran o’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol hanfodol.

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gweithio o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyda phlant mewn capasiti â goruchwyliaeth.

Gyda chymwysterau lefel 2, byddwch yn gallu gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant neu ofal wrth gael eich goruchwylio gan rywun sy’n meddu ar gymhwyster Lefel 3.  Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer pob dysgwr 16 + oed sydd â phrofiad neu hebddo.

Cyflawnodd y cwrs gyfradd dilyniant o 100% eleni gyda’r holl fyfyrwyr yn parhau i’r cwrs Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 3 yn y Coleg.

Dyma’r hyn oedd gan ein myfyrwyr i’w ddweud:

”Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant, felly dechreuais astudio ar y cwrs Lefel 2 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ym Mannau Brycheiniog, yn ystod y flwyddyn academaidd.

Nid oedd yn flwyddyn arferol oherwydd COVID, ac yn sicr fe ddaeth heriau yn ei sgil.  Fodd bynnag, gyda chefnogaeth fy athrawon, mi lwyddais, mi wnes i basio!

Rwyf bellach wedi symud ymlaen i’r cwrs Gofal Plant Lefel 3 ym Mannau Brycheiniog.  Eleni rydym yn ôl yn dysgu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth ac mae’n teimlo mor dda i fod yn ôl i ryw fath o normalrwydd.  Ond roedd yn werth y cyfan er mwyn cael fy swydd ddelfrydol,” meddai Nia Thomas.

Ychwanegodd Elspeth Davies:

”Dechreuais i yn y coleg yn astudio cwrs hollol wahanol, ond yn fuan iawn sylweddolais fy mod wir eisiau bod yn nyrs.  Felly, fis Medi diwethaf, ymrestrais ar y cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ym Mannau Brycheiniog.  Cefais gyfle hefyd i ail-sefyll fy TGAU Mathemateg a Saesneg (ac mi wnes i basio!)

Rhoddodd y cwrs Lefel 2 yr hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i mi a fydd yn sail i wahanol agweddau ar ofal: datblygiad plant, cyfathrebu, ymarfer proffesiynol a llawer mwy.

Mae Bannau Brycheiniog yn gampws bach a chyfeillgar gyda thîm gwych sydd bob amser wedi fy nghefnogi, o athrawon i staff gweinyddol a staff y llyfrgell. Mae pawb yn gefnogol, yn llawn anogaeth ac yn barod i helpu.”

Diddordeb? Ni allai ymuno â ni fod yn symlach.

Ymgeisiwch ac ymrestru yma