Grŵp Colegau NPTC yn Dathlu 90 Mlynedd mewn Addysg

Heddiw, mae Grŵp Colegau NPTC yn dathlu 90 mlynedd o ragoriaeth mewn addysg a hyfforddiant.

Agorodd y Coleg yn swyddogol ar 28 Medi 1931, ac o gychwyn syml iawn – dim ond pum ystafell addysgu oedd yn y sefydliad – mae wedi tyfu i fod yn un o’r darparwyr addysg bellach mwyaf a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

Dros y 90 mlynedd diwethaf, mae’r Coleg wedi gweld myfyrwyr yn cyflawni llwyddiant mewn meysydd academaidd, galwedigaethol, chwaraeon a diwylliannol, ac mae’r llwyddiant hwnnw’n rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno wrth inni symud i’r dyfodol.

Heddiw gwelwyd cymysgedd o ddathliadau rhithwir ochr yn ochr â seremoni torri cacen a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd a fynychwyd gan Dîm Gweithredol Grŵp Colegau NPTC.

 

Bydd y digwyddiad heddiw yn cychwyn cyfnod o ddathliadau blwyddyn o hyd i nodi’r achlysur. Daeth negeseuon fideo o longyfarchiadau o ar draws y byd gan gyn-fyfyrwyr nodedig:

Barnwr yr Uchel Lys Syr Clive Lewis, y Gwalch Dan Lydiate, y Cymrawd Anrhydeddus yr Athro Geraint Lewis, cyn AS Llafur Castell-nedd Gwenda Thomas, Lauren Drew, cystadleuydd rownd gynderfynol ‘The Voice’, y Triniwr Gwallt Enwog Lee Stafford, capten Pêl-rwyd Cymru Suzy Drane, yr Artist Neal Rock, y canwr-cyfansoddwr Steve Balsamo a’r Actores Bollywood Samira Mohammed Ali.

Daeth Grŵp Colegau NPTC i fodolaeth ar 1 Awst 2013. Fe’i ffurfiwyd o ganlyniad i uno Coleg Castell-nedd Port Talbot, a oedd yn wreiddiol yn ddau goleg ar wahân tan 1999, sef Coleg Afan a Choleg Castell-nedd: a Choleg Powys, a oedd yn wreiddiol yn dri choleg tan 1989; sef Coleg Trefaldwyn, Coleg Sir Faesyfed a Choleg Howell Harris. Mae Grŵp Colegau NPTC bellach yn un o’r grwpiau mwyaf o golegau a darparwyr addysg yng Nghymru ac erbyn hyn mae ganddo drosiant blynyddol o fwy na £65 miliwn.

Mae’r Coleg yn cwmpasu dros draean o dir Cymru. Mae’n gweithredu ar bedair prif ganolfan fawr: Coleg Afan; Coleg Bannau Brycheiniog; Coleg Castell-nedd a Choleg Y Drenewydd. Mae gan y Grŵp ganolfannau llai hefyd gan gynnwys: Coleg Pontardawe; Y CWTCH Aberhonddu; Canolfan Adeiladwaith Maesteg; Canolfan Adeiladwaith Abertawe; Campws Llandrindod; ac Academi Chwaraeon o’r radd flaenaf ym Mharc Llandarcy. Yn ddaearyddol, mae hyn yn golygu bod oddeutu 100 milltir rhwng ein campws sydd bellaf i’r gogledd a’n campws sydd bellaf i’r de.

Fodd bynnag, mae ein wyth is-gwmni hefyd yn gweithredu mewn gwahanol leoliadau yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Llandarcy, Llanelli, Swindon a Portsmouth.

Mae hanes pob un o’r Colegau sy’n ffurfio’r Grŵp yn anhygoel. Agorodd Coleg Technegol Margam ei ddrysau ym 1952, i gefnogi prentisiaid y Gwaith Dur. Agorodd Gwesty Ye Wells yn Llandrindod ym 1907 ond daeth yn goleg hyfforddi ar ôl y rhyfel, ym 1947.  Daeth yn ysgol breswyl i fyfyrwyr a oedd â nam ar eu clyw ym 1950 ac yna daeth yn goleg AB ym 1973. Agorodd Coleg Bannau Brycheiniog ar 20fed Ionawr 1965 a’i enw oedd Coleg Howell Harris. Cafodd Coleg Y Drenewydd ei adeiladu’n bwrpasol ym 1981 ar ôl newid o Goleg Trefaldwyn, ac agorodd Hafren ei ddrysau ym 1983.

Er mai Medi 28, 1931, yw pen-blwydd swyddogol y Coleg, gellir olrhain addysg bellach yng Nghastell-nedd yn ôl mor gynnar â 1843, pan oedd Sefydliad Mecanyddion yng Nghastell-nedd. Roedd poblogrwydd y Sefydliad Mecanyddion yn golygu y daeth yr adeilad yn rhy fach yn fuan, ac adeiladwyd adeilad mwy yn Church Place yng Nghastell-nedd – mae’r adeilad hwn yn dal i fodoli heddiw. Ond ym 1931 yr arweiniodd anghenion y chwyldro diwydiannol parhaus at agoriad swyddogol Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol Castell-nedd.

Yn y flwyddyn gyntaf honno, roedd 50 o fyfyrwyr amser llawn, chwe myfyriwr dydd rhan-amser a 741 o fyfyrwyr gyda’r hwyr, gan roi cyfanswm o 797 o fyfyrwyr.

Parhaodd y Coleg i dyfu trwy gydol y ’40au er gwaethaf yr Ail Ryfel Byd ac ym 1946, sefydlwyd Adran Peirianneg ac Adran Wyddoniaeth newydd. Ym 1949, adeiladwyd pedair ystafell ddosbarth dros dro ychwanegol, a chafodd y coleg ei gydnabod a’i ailenwi’n Goleg Technegol Castell-nedd yn swyddogol.

47 mlynedd yn ddiweddarach cafwyd uno swyddogol Colegau Castell-nedd ac Afan ar y cyntaf o Ionawr 1999 lle crëwyd Coleg Castell-nedd Port Talbot.

Dros ddegawd yn ddiweddarach, ar ôl uno llwyddiannus arall – y tro hwn â Choleg Powys – trodd y Coleg yn endid sy’n parhau heddiw: Grŵp Colegau NPTC.

Trwy gydol hanes y Coleg, mae wedi parhau i adeiladu ei enw da am ragoriaeth gyda chanlyniadau rhagorol mewn arholiadau Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol, ynghyd â llwyddiannau chwaraeon a diwylliannol. Mae cyflawniadau myfyrwyr wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda’r gyfradd basio gyffredinol gyfredol yn 100 y cant anhygoel, gyda’r myfyrwyr sy’n perfformio orau yn symud ymlaen i’r prifysgolion gorau gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Heddiw, mae Grŵp Colegau NPTC yn cyflogi ymhell dros 1000 o bobl ar draws pob un o’r prif gampysau ac yn ei wyth is-gwmni sy’n cynnwys: LSI Portsmouth, Llandarcy Park Limited, JobForceWales Ltd, Learn Kit Limited, JGR Educate, Green Labyrinth (gan gynnwys EngageCRM), NPTC Enterprises ac Academi Feicio Cymru.

Yn ychwanegol at ei gampysau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, mae Grŵp Colegau NPTC hefyd yn gweithredu Fferm Fronlas yn Y Drenewydd, Fferm Cefn y Bryn yn Sarn, Theatr Hafren, Pwll Nofio Dyffryn Cymer, Bwyty a Bar Chwaraeon y Pafiliwn yn Llandarcy, Tŷ Coffi a Bwyty 113 Art yn Portsmouth a lleoliad cymunedol CWTCH yn Aberhonddu.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC er 16 mlynedd: “Mae’r Coleg wedi ymdopi â her yn ei hanes o 90 mlynedd, ond efallai mai’r 18 mis diwethaf oedd yr anoddaf oll. Ac wrth i ni ddathlu ein 90ain blwyddyn mewn addysg, ni allaf fynegi pa mor falch ydw i o’r holl staff a myfyrwyr yn y coleg.  Mae’n wych gweld sut wnaethon nhw addasu i’r pandemig ac rwy’n hynod falch i weld cynifer o fyfyrwyr yn ôl o’r diwedd ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.”

Pic Caption: Dathlu 90 mlynedd o Addysg Tîm Gweithredol Grŵp Colegau NPTC.

O’r chwith i’r dde: Catherine Lewis, Dirprwy Bennaeth a Dirprwy Brif Weithredwr, Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr, Gemma Charnock, Is-Bennaeth: Cysylltiadau Allanol ac Ysgrifennydd y Grŵp, Kelly Fountain, Is-Bennaeth: Gwasanaethau Academaidd