Pam mae Mynd i’r Afael â’r Angen am Sgiliau Gwyrdd yng Nghymru yn hanfodol

Daw’r erthygl hon o wefan Business News Wales.

 Yn ddiweddar, cyhoeddodd Diwydiannau Gwyrdd Cymru, y rhwydwaith cydweithredu a darganfod annibynnol ar gyfer yr economi werdd yng Nghymru, ei gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sgiliau Hybrid, gan ddod â sefydliadau ac unigolion blaenllaw Cymru sy’n canolbwyntio ar yr agenda sgiliau gwyrdd ynghyd.

Mae Wyn Prichard, Cyfarwyddwr Sgiliau Adeiladwaith Grŵp NPTC yn sgwrsio â Business News Wales am y Cyngor Sgiliau

Cliciwch yma i wrando ar gyfweliad Wyn gyda Business News Wales

Dywedodd Wyn:

“Rwy’n credu ei fod yn hanfodol ac yn amserol iawn!

“Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd mewn nifer o fentrau gwyrdd. Mae gennym ni holl ddarnau’r jig-so, mae angen i ni ei roi at ei gilydd nawr.”

Fel Cadeirydd yr Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi yng Nghymru, mae Wyn wedi gweld gwaith gwych wrth adeiladu sgiliau cynaliadwyedd a gwybodaeth y gadwyn gyflenwi adeiladwaith yng Nghymru. Dywed sut y mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cadw’r gwelliant yn y maes hwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a pheidio â gadael i gynaliadwyedd lithro yn nhrefn y blaenoriaethau.

Yn unol ag amcan craidd Diwydiannau Gwyrdd Cymru, cynhaliwyd y sesiwn gyntaf hon am 10am ddydd Gwener 1af Hydref, gyda ffocws ar gysylltu sefydliadau ac unigolion i dynnu sylw at brosiectau, mentrau a chynlluniau sgiliau gwyrdd presennol ledled Cymru – gan nodi heriau a chyfleoedd ar y cyd, archwilio meysydd ar gyfer rhannu gwybodaeth a chydweithio.

Gyda’r rhan fwyaf o arbenigwyr y diwydiant a’r llywodraeth yn rhagweld y bydd targedau datgarboneiddio yn cael eu cyrraedd trwy ddatrysiad cyfunol o ynni – gan harneisio pŵer technolegau Biomas, Dal Carbon, Geothermol, Pympiau Tanwydd, Ymasiad, Hydro, Hydrogen, Solar, Llanw a Gwynt – mae marciau cwestiwn yn parhau o ran y sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i roi cyflenwad o dalent diogel yn y dyfodol i Gymru sy’n gallu galluogi’r trawsnewidiad gwyrdd hwn.

Ni allai amseriad y Cyngor Sgiliau Gwyrdd cyntaf ym mis Hydref ddod ar adeg fwy perthnasol, yn dilyn Adroddiad Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig fis diwethaf gan yr IPCC yn nodi “rhybudd coch ar gyfer dynoliaeth” – a chyn Cynhadledd COP26 ym mis Tachwedd, a fydd yn dwyn ynghyd cenhedloedd y byd i weithio tuag at dargedau datgarboneiddio cyffredin.

Gyda chyflogwyr mawr yng Nghymru fel Airbus, BOC, Costain, DOW, Dŵr Cymru a Wales & West Utilities yn gweithio’n fwyfwy agos gyda’r byd academaidd i ddod o hyd i’r ffordd iawn ymlaen o ran ynni ac adnoddau dynol – a gyda’r llywodraeth yn gweithio ar bob lefel i sefydlu dull cyffredin o ran dyfodol ynni yng Nghymru – mae canfyddiadau cychwynnol y Cyngor Sgiliau Gwyrdd Hybrid cyntaf hwn yn sicr o lywio’r drafodaeth a chynlluniau gweithredu, wrth i ddiwydiant ac addysg ddechrau llunio cynllunio’r gweithlu ar gyfer Cymru Werdd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â mark@businessnewswales.com