Grŵp Colegau NPTC ym Mhencampwriaethau’r Chwe Gwlad

Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion yn dechrau’r penwythnos hwn i’r timau Hŷn a dan 20, gyda Grŵp Colegau NPTC yn cael ei gynrychioli yn nwy garfan Cymru y penwythnos yma. Bydd Adam Beard, Dan Edwards a Joe Hawkins yn Iwerddon yn gobeithio rhoi hwb i’w hymgyrchoedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaethau dros eu cymheiriaid Celtaidd.

Bydd cyffro’r penwythnos yn dechrau nos Wener yng Nghorc lle bydd tîm dan 20 Cymru yn wynebu tîm dan 20 Iwerddon. Bydd Dan Edwards yn ymddangos am y tro cyntaf dan 20 pan fydd yn dechrau yn safle’r maswr, gyda Joe Hawkins yn gobeithio chwarae ei ran yn y gêm oddi ar y fainc.

Bydd Dan, a gwblhaodd ei astudiaethau yn Academi Chwaraeon Llandarcy yn ddiweddar, yn anelu at barhau â’r perfformiad gwych y mae wedi’i ddangos yn ei dymor cyntaf yn Aberafan. Gwnaeth y cyn-ddisgybl Ystalyfera argraff fawr yn ei ymddangosiad cyntaf i’r Dewiniaid yn erbyn Cwins Caerfyrddin yn gynharach yn y tymor, gan ennill Chwaraewr y Gêm, a bydd yn dymuno ailadrodd hynny y penwythnos hwn.

Mae Joe, a astudiodd y Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn Academi Chwaraeon Llandarcy, yn paratoi i ddechrau ei ail ymgyrch gyda’r garfan dan 20. Mae’r canolwr 19 oed wedi dod yn chwaraewr rheolaidd yn nhîm y Gweilch y tymor hwn. Bydd Joe yn gobeithio gwneud argraff fawr dros y penwythnos wrth iddo wthio am le i ddechrau yn erbyn Yr Alban ym Mae Colwyn y penwythnos nesaf.

Y prif atyniad y penwythnos hwn i’r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru fydd ddydd Sadwrn pan fydd Cymru’n herio Iwerddon yn Nulyn i roi cychwyn ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness eleni. Mae Cymru’n camu i’r ymgyrch eleni gydag golwg ar amddiffyn y teitl a enillon nhw yn y twrnamaint y llynedd. Bydd Adam Beard yn gobeithio arwain o’r blaen wrth i’r Is-Gapten sydd newydd ei benodi ddechrau yn yr ail reng i Gymru.

Cafodd Adam dymor i’w gofio’r llynedd, gyda galwad i garfan Llewod Prydain ac Iwerddon ym mis Gorffennaf yn goron ar y cyfan. Bydd y cyn-fyfyriwr Lefel 3 BTEC Chwaraeon yn edrych i adeiladu ar lwyddiant y llynedd pan fydd yn gwisgo crys Cymru y penwythnos hwn. Bydd seren y Gweilch wrth ochr Will Rowlands yn yr ail reng, gan obeithio lleihau effaith absenoldeb yr hynod brofiadol Alun Wyn Jones sy’n colli’r twrnamaint oherwydd anaf.

Bydd gan Grŵp Colegau NPTC gyn-fyfyriwr fel rhan o’r tîm dyfarnu yn y twrnamaint eleni hefyd. Bydd Craig Evans sy’n gyn-fyfyriwr Academi Chwaraeon Llandarcy yn cymryd rhan mewn tair gêm ar draws y twrnamaint fel Dyfarnwr Cynorthwyol. Dechreuodd Craig ddyfarnu yn ei arddegau ac mae wedi bod yn rhan o Gyfres Saith Bob Ochr y Byd ers 2016, a bu’n dyfarnu yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 yr haf diwethaf.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad mewn gêm rhwng yr Eidal ac Iwerddon y llynedd. Bydd Craig yn dechrau’r twrnamaint eleni yn Murrayfield fel llumanwr wrth i’r Alban herio Lloegr.

Hoffai pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC ddymuno’r gorau i Adam, Dan, Joe a Craig y penwythnos hwn ac am weddill y twrnamaint.

Iwerddon dan 20 v Cymru dan 20, Parc Musgrave, nos Wener y 4ydd o Chwefror, Y Gic Gyntaf am 8pm (Yn fyw BBC iPlayer ac S4C)

Iwerddon v Cymru, Stadiwm AVIVA, dydd Sadwrn y 5ed o Chwefror, Y Gic Gyntaf am 2.15pm (Yn fyw ITV ac S4C)

Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer Medi 2022. Cliciwch isod i gael gwybod rhagor am ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Grŵp Colegau NPTC.

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus