Ailymweld â Gardd Goffa ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost

Bu Grŵp Colegau NPTC yn coffáu Diwrnod Cofio’r Holocost gyda gwasanaeth coffa a gynhaliwyd yng Ngardd Goffa’r Holocost Coleg Castell-nedd.

Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost bob blwyddyn ar 27 Ionawr ac mae’n nodi pen-blwydd rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Natsïaid.

Roedd y digwyddiad coffa blynyddol hefyd yn nodi 10 mlynedd ers symud Gardd Goffa’r Holocost i Goleg Castell-nedd o Dŷ Twyn-yr-Hydd, Margam.

Fe wnaeth y gwestai arbennig, cyn Uwch Ddarlithydd Garddwriaeth  Grŵp Colegau NPTC, Bob Priddle, a ddyluniodd yr ardd yn wreiddiol, siarad am sut y crëwyd yr ardd a’r ystyr y tu ôl i nodweddion yr ardd.

Dywedodd: ”Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi gael prennau rheilffordd gan fod y rheilffyrdd wedi’u cynnwys mewn cymaint o straeon am yr Holocost, ac roeddwn i eisiau defnyddio cadwyni, ond mae’r cadwyni wedi’u torri,  fel symbol o obaith.”

Adroddodd Bob hefyd gerdd ‘First They Came’, sef rhyddiaith gyffesol wedi’r rhyfel o 1946 gan y gweinidog Lutheraidd Almaenig Martin Niemöller. Dyma’r un gerdd ddarllenodd Bob i agor yr ardd ddegawd yn ôl.

Roedd yr ardd wedi’i hadfer ar gyfer y digwyddiad gan staff a myfyrwyr o bob un o’r tair lefel yn yr adran Garddwriaeth, yn ogystal â myfyrwyr o Astudiaethau Sylfaen, gydag ychwanegiadau newydd o godau QR yn cysylltu â padlet.com, gan ddarparu deunydd darllen ac adnoddau pellach.

Bu Emily Pearce, myfyrwraig Safon Uwch Grŵp Colegau NPTC a Llywydd presennol Undeb y Myfyrwyr hefyd yn adrodd detholiad o ‘Cara’s Story’; menyw a oroesodd yr Holocost a oedd wedi bod yn destun arbrofion meddygol tra yn y carchar mewn gwersyll-garchar.

Traddododd Helen Morgan, aelod o Fwrdd Corfforaeth y Coleg, araith ac ailgysegru’r ardd ar ran Grŵp Colegau NPTC. Roedd ei sylwadau terfynol yn atgof pwerus:

“Heddiw, rydym yn sefyll gyda’n gilydd dros y rhai y torrwyd eu bywydau’n fyr yn drasig, y mae eu colli wedi darparu gwaddol ingol ond pwerus i bob un ohonom.’’

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sicrhau bod ein cartrefi, ein Coleg a’n cymunedau yn fannau gwirioneddol o ddiogelwch, diogeledd a chryfder. I fod yn ymroddedig i fod yn fwy tosturiol, deallgar a goddefgar o’ch gilydd.”

Yn olaf, arweiniodd Fran Green, Pennaeth Cynorthwyol Ansawdd Grŵp Colegau NPTC y gwesteion mewn munud o dawelwch.

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn annog cofio mewn byd sydd wedi’i greithio gan hil-laddiad. Mae HMD wedi’i gynnal yn y DU ers 2001, gyda Seremoni Goffa’r DU a mwy na 10,000 o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal ledled y DU.

Eleni anogwyd gwesteion i wisgo porffor i gefnogi’r diwrnod.