Mae mwy na chant o Gynorthwywyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ymhlith Staff Grŵp Colegau NPTC am y Tro Cyntaf!

Mae MWY na 100 o aelodau o staff ar draws Grŵp Colegau NPTC wedi cyflawni eu hyfforddiant i ddod yn Gynorthwywyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA).

Yn gweithio gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Lloegr a Chymru, cyflawnodd staff cymorth a staff addysgu’r hyfforddiant gan anelu at hyrwyddo llesiant meddwl ac annog sgyrsiau agored ac onest am iechyd meddwl yn y gweithle.

Rôl MHFA yn y gweithle yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithiwr sy’n profi anawsterau iechyd meddwl neu boendod emosiynol. Gallai’r cyswllt amrywio o fod yn sgwrs gychwynnol i gefnogi/annog eu cyd-weithwyr i gael y cymorth priodol. Yn ôl llawer o staff,‘’rhoi rhywbeth yn ôl i aelodau o staff a chyd-weithwyr agos’’ oedd y prif reswm iddynt ddod yn MHFA.

Mae’r hyfforddiant yn rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o gyflyrau iechyd meddwl a strategaethau i helpu’r rheiny sy’n cael trafferth, yn cynnwys, sut i ddechrau sôn am iechyd meddwl, gwrando a dangos iddynt lle i ddod o hyd i gymorth.

Amcan arall y cynllun yw lleihau’r gwarthnod sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a’i roi ar yr un llwyfan ag iechyd corfforol.  Esboniodd un aelod o staff:

‘’Mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn agos iawn at fy nghalon ar ôl i fi gael diagnosis fy hunan, mae’n salwch unig ac er nad yw gwarthnod iechyd meddwl mor wael heddiw mae rhywfaint ohono i’w weld o hyd.  Ni ddylai neb deimlo mor unig fel nad oes modd iddynt ofyn am gymorth neu siarad am eu problemau go iawn.’’

Yn 2017 arwyddodd Grŵp Colegau NPTC yr addewid Amser i Newid a thrwy wneud hyn, rhoddwyd cyfle i bob aelod o staff ddod yn rhan o’r Tîm Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

Cyflawnwyd yr hyfforddiant gan y garfan gyntaf o aelodau tîm ym mis Chwefror 2018, gydag wyth aelod o staff yn unig yn y lle cyntaf.

Wedi hynny, cynhaliwyd nifer o gyrsiau Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a hyfforddiant MHFA bellach ac felly’n tyfu’r tîm i gyfanswm o 106 o aelodau MHFA gan hyfforddi 68 o aelodau ychwanegol i lefel 1 neu lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae’r rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn rhan o strategaeth llesiant ehangach y Coleg sy’n gweithio i greu amgylchedd gwaith lle y mae iechyd a llesiant wrth wraidd popeth y mae’r Coleg yn ei wneud. Dywedodd Eleanor Glew, Is-bennaeth: Gwasanaethau Gweithrediadol: ‘’Dwi wrth fy modd gyda llwyddiant y cynllun hyd yn hyn ac mae’r ffaith bod mwy na 100 o weithwyr eisoes wedi dewis cyflawni’r hyfforddiant wir yn ffantastig.  Rydyn ni wir yn gobeithio y bydden ni’n gweld mwy o’n staff a’n cymheiriad yn teimlo’n ddigon cysurus i ddechrau sgwrs gyda’u MHFA.. Sut bynnag, mae’n bwysig cofio nad yw Cynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl wedi cael eu hyfforddi i fod yn therapyddion neu seiciatryddion ond mae modd iddyn nhw gynnig cymorth ar y dechrau trwy wrando heb farnu a rhoi cyfarwyddyd.’’

Mae Cydlynydd Iechyd a Llesiant y Coleg Lesley Havard a’r tîm AD yn hyrwyddo iechyd meddwl a chorfforol yn barhaus trwy gyfrwng gweithgareddau rheolaidd yn cynnwys sesiynau galw heibio Coffi a Sgwrs Amser i Siarad gyda’r tîm MHFA; trefnu siaradwyr gwadd i hybu cydbwysedd bywyd a gwaith, Oddballs a Coppafeel! i gefnogi sgyrsiau am ganser, a hefyd ymwybyddiaeth o’r menopaws yn y gweithle, i enwi ond ychydig ohonynt.