Academi Sgiliau Cymru yn Cyhoeddi Gwobrau Prentisiaeth

Mae Academi Sgiliau Cymru (SAW), un o’r prif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, wedi penderfynu ei bod yn bryd tynnu sylw at ei phrentisiaid, ei staff, a’i chyflogwyr drwy gynnal seremoni arbennig i gydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad rhagorol, wedi cyflawni cyflawniadau a dathlu llwyddiant er gwaethaf y pandemig.

 

Mae Academi Sgiliau Cymru (SAW) yn partneriaeth dysgu seiliedig ar waith a arweinir gan Grŵp Colegau NPTC. Dyma’r partneriaeth dysgu seiliedig ar waith cyntaf o’i fath yng Nghymru!

Fe’i ffurfiwyd yn 2009 ac mae’n un o’r darparwyr Prentisiaethau sy’n perfformio orau yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd prentisiaeth o ansawdd uchel mewn dros 30 o feysydd galwedigaethol.

Mae’r partneriaid yn cynnwys ACO Training Ltd; Coleg y Cymoedd; Gweithlu Cymru; Learn-kit Ltd; Hyfforddiant Cyngor Gwledig Llanelli ac Hyfforddiant Digidol ITeC.

Bydd y Gwobrau’n dathlu llwyddiannau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sy’n ymwneud â darparu Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth o safon ar draws y partneriaeth. Mae’r categorïau’n cwmpasu pob lefel, o Brentisiaid Sylfaen i Gyflogwyr Mawr o dros 100 o weithwyr, gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo i’w chynnal yng Ngholeg Castell-nedd ar ôl y Pasg.

“Mae Academi Sgiliau Cymru yn bartneriaeth unigryw ledled Cymru ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol wrth ddarparu atebion effeithiol i’r prinder sgiliau a nodwyd. Mae’n briodol iawn ein bod yn arddangos gwaith caled ein staff ac yn enwedig ein prentisiaid, a gwnawn hynny gyda llawenydd mawr”, meddai Nicola Thornton Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yn Ngrŵp Colegau NPTC.

CATEGORÏAU

Prentis Sylfaen y Flwyddyn        

Prentis y Flwyddyn

Prentis Uwch y Flwyddyn

Dysgwr y Flwyddyn Hyfforddeiaeth

Cyflogwr Bach y Flwyddyn <100

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn >100

Ymarferydd y Flwyddyn

Cydnabyddiaeth Arbennig i Staff Cymorth

Hyrwyddwr Digidol

Talent Yfory