Mae Grŵp Colegau NPTC yn arwyddo’r Llw Menopos yn y Gweithle

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi arwyddo llw i gefnogi menywod sy’n gweithio ar draws y Coleg trwy arwyddo ‘r Llw Menopos yn y Gweithle.  Prif amcan y fenter yw rhoi cysur i fenywod sy’n profi’r menopos fel y mae modd iddynt gael eu cefnogi i’r eithaf yn y gweithle.

Mae oddeutu 900,000 o fenywod yn y DU wedi gadael eu swyddi o ganlyniad i’r menopos, gydag ymchwil yn dangos bod llawer ohonynt yn cael trafferth wrth reoli eu symptomau yn y gweithle, ac wrth arwyddo’r llw, mae’r coleg yn ymrwymo i gydnabod bod y menopos yn rhywbeth o bwys yn y gweithle; bod angen siarad yn agored, yn gadarnhaol a gyda pharch amdano; ac i gefnogi ein gweithwyr yn weithredol yn ei gylch.

Mae gan y Coleg rwydwaith o staff sydd eisoes yn cwrdd bob tymor i drafod sut mae’r menopos wedi effeithio arnynt, gan rannu unrhyw gymorth y maent wedi dod ar ei draws ar hyd y daith i reoli’r symptomau ac mae’r Coleg hefyd wedi creu tudalen Cymorth Menopos i staff gael mynediad ati.  Mae’r pecyn Adnoddau Menopos hwn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â deall beth yw’r menopos, dechrau sgwrs am y menopos gyda’ch meddyg, straeon a ffeithiau ynglŷn â symptomau a chyngor defnyddiol y gall staff gael mynediad atynt i reoli  eu symptomau.

Roedd Catherine Lewis, Dirprwy Bennaeth a Dirprwy Brif Weithredwr y Coleg wrth ei bodd i arwyddo’r llw gan ymuno â dros 400 o sefydliadau eraill i ddangos eu cefnogaeth. Dywedodd:

“Rydyn ni’n falch o arwyddo’r llw i gefnogi menywod yn ein Coleg sy’n profi’r menopos.  Rydyn ni’n ymwybodol y gallai symtomau fod yn heriol i’w rheoli ac rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi’r rheiny sy’n dioddef y fath beth.’’