Lee Stafford yn dychwelyd i Goleg y Drenewydd

Roedd myfyrwyr ar y cwrs Trin Gwallt a Therapi Cymhwysol yng Ngholeg y Drenewydd yn falch iawn o gael arddangosiad gwallt a dosbarth meistr gan y triniwr gwallt enwog Lee Stafford.

Academi Addysg Lee Stafford, sy’n cynnwys Coleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd yw’r unig un o’i math yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant unigryw a dosbarthiadau meistr eithriadol i drinwyr gwallt newydd a salonau nad yw ar gael iddynt yn unman arall.

Gyda dros ugain mlynedd o ymwneud â’r diwydiant mae gan Lee lawer o brofiad a gwybodaeth i’w rhannu gyda’n dysgwyr. Dechreuodd ei arddangosiad o’r ‘Classic twisted tong’ trwy ddewis model gwallt o blith y grŵp.  Dywedodd y gwirfoddolwr parod Sophie Emberton ei bod yn falch o gael ei dewis. Gwelwyd llawer o frwdfrydedd a diddordeb yn yr arddangosiad rhyngweithiol. Anogodd Lee gwestiynau gan y gynulleidfa gan gynnig cynhyrchion i’r myfyrwyr o gasgliad ei frand pinc eiconig. Rhannodd awgrymiadau, cyngor a straeon anecdotaidd o’i fywyd.

Ar ôl yr arddangosiad soniodd y myfyrwyr am yr hwb roedd y dosbarth meistr wedi’i roi iddynt a mynegwyd eu mwynhad o dderbyn arweiniad unigol yn y salon ar rai o’r technegau.

‘Roedd yn hwb gwirioneddol cael Lee yma yn rhannu ei awgrymiadau a’i straeon. Mae’n wych gweithio gydag ef. Roedd dod yn ôl fel myfyriwr aeddfed braidd yn frawychus ond mae’n rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed, ac roedd Lee yn wirioneddol ysbrydoledig.’ dywedodd Lisa Perry.

‘Roedd yn gyflwyniad gwych, nid yn unig i glywed y cyngor ar y ‘twisted tong’ a thechnegau eraill, ond i glywed am y mathau o gynnyrch a marchnata eich hun a phopeth sy’n cyd-fynd ag ef. Ar ôl ei glywed a gwrando arno’n rhannu cyngor yn y salon ar ôl yr arddangosiad, rwy’n wirioneddol obeithiol am fy nyfodol.’ dywedodd Ni Gwilt.

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol y Coleg: ‘Ni yw’r unig Goleg yng Nghymru i fod yn Academi Lee Stafford ac mae cael Lee yn ôl yn y coleg yn darparu arddangosiadau i’r dysgwyr yn wych. Mae ganddo gymaint o brofiad a safonau uchel, ac mae’n ysbrydoliaeth wirioneddol i’r rhai sy’n cychwyn ar yrfa yn y diwydiant.’

Bydd Lee Stafford yn ôl gyda ni yn fuan iawn ar gyfer digwyddiadau pellach. Os ydych chi’n rhywun sy’n dymuno dechrau gyrfa mewn trin gwallt, cysylltwch â ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Trin Gwallt yn un o’n academiau Addysg Lee Stafford, gallwch cael golwg ar cyrsiau trwy glicio ar y botwm isod.

Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol