Darlithydd Grŵp Colegau NPTC yn ennill ei le gyda Thîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad

Mae Andy Davies sy’n ddarlithydd mewn Chwaraeon yng Ngholeg y Drenewydd, unwaith eto wedi llwyddo i ennill lle ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham ar ôl gorffen rhedeg marathon ffantastig yn Seville gan redeg ei amser personol gorau o 2.14.22.

Roedd ei amser yn ddigon da i ennill lle ar gyfer y Pencampwriaethau Ewropeaidd ac roedd yn ddiwrnod da i Gymru gyda Josh Griffiths yn gorffen mewn 2:11.27 i ennill ei le hefyd.

Treuliodd Andy amser wrth gyflwyno’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yng Ngholeg Y Drenewydd ddydd Iau’r wythnos hon yn siarad â ni am ei deimladau cyn y ras fawr yn Seville.

Dywedodd, ‘Dwi’n teimlo mewn cyflwr da ac yn barod i fynd, dydy’r tywydd ddim wedi bod yn dda iawn o ran hyfforddi a rhedeg yn ddiweddar ond mae’r amodau a’r cwrs yn Seville yn edrych yn dda.’

Ar ôl y ras, mae’n disgrifio ei berfformiad fel ‘fy amser personol gorau a oedd braidd yn ddigywilydd, llongyfarchiadau i fy nghyd-chwaraewr Cymreig Josh Griffiths ar ei lwyddiant mawr a’i amser personol gorau.’

Dywedodd Barry Roberts, Pennaeth yr Ysgol: Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ‘mae Andy yn ysbrydoliaeth ffantastig ar gyfer ein myfyrwyr ifanc sy’n astudio Chwaraeon ac mae bob amser yn awyddus o roi amser ac anogaeth iddynt ddilyn eu hamcanion.  Dymunwn bob lwc iddo yn y Bencampwriaeth.’