Grŵp Colegau yn ymuno â’r mudiad i greu gweithleoedd sy’n hyderus o ran gofalwyr ledled Cymru a chefnogi gofalwyr sy’n gweithio

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi dod yn aelod o Gyflogwyr i Ofalwyr.   Gyda chefnogaeth gwybodaeth arbenigol Gofalwyr DU a Gofalwyr Cymru, mae Cyflogwyr i Ofalwyr yn rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gefnogi’r 1 o bob 4 o’r gweithlu yr amcangyfrif eu bod yn ofalwyr, neu y byddant yn dod yn ofalwyr.

Mae gweithwyr ym mhob diwydiant yn cydbwyso eu swyddi â chyfrifoldebau gofalu di-dâl.  Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod gan 223,000 o weithwyr yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu hefyd, nifer yr amcangyfrifwyd ei fod wedi codi i 345,000 ar anterth y pandemig.  Mae’n hanfodol i gyflogwyr ystyried yr effaith y mae hyn yn ei chael ar  unigolion a’u cefnogi fel y gallant aros yn y gweithlu.  Mae mantais driphlyg i gadw mwy o ofalwyr mewn gwaith; i’r gofalwr drwy sicrhau bod ganddo fywyd y tu allan i ofalu, i’r busnes drwy gadw gweithwyr gwerthfawr a phrofiadol ac i’r economi drwy gael mwy o bobl mewn gwaith.

Meddai Eleanor Glew, Is-Bennaeth Gwasanaethau Gweithredol Grŵp Colegau NPTC:

“Nod Grŵp Colegau NPTC yw cefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu.  Mae Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru wedi cynnig amrywiaeth o gymorth a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i gyflawni’r nod hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i wella ein harferion gwaith presennol ymhellach.”

Meddai Catherine Reynolds, Swyddog Cyflogwyr i Ofalwyr, Hyb Cymru:

“Rydym mor falch bod Grŵp Colegau NPTC wedi ymuno â Chyflogwyr i Ofalwyr.  Bydd eu dewis i fod yn bartner gyda ni yn darparu cefnogaeth hanfodol i staff sydd â chyfrifoldebau gofalu mewn cyfnod a all fod yn heriol o ran cydbwyso gwaith a gofal.  Yn ogystal, bydd gweithio gyda’r Coleg yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ofalwyr ledled Cymru a chynnig cymorth i gyrraedd yr holl ofalwyr ar draws gwahanol gymunedau.”

I gefnogi ein staff, ar ddydd Iau 3ydd Mawrth am 3pm, bydd y Coleg yn croesawu ein cysylltiadau Jane Healey a Catherine Reynolds o Gyflogwyr i Ofalwyr i weminar ar-lein yn trafod y canlynol:

– Rôl y Gofalwr

– Sut i siarad â’ch rheolwr llinell am eich cyfrifoldebau gofalu

– Hawliau cyfreithiol gofalwyr

– Sut i ofalu am eich Iechyd a Llesiant fel gofalwr

– Canllaw gweithwyr Cyflogwyr i Ofalwyr

– Adnoddau cymorth; a mwy

Gallwch ddod o hyd i’r ddolen yma!