Arbenigwr Addysgu o’r Radd Flaenaf yn Ymuno â Grŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o gyhoeddi partneriaeth strategol newydd sbon gyda’r arbenigwr blaenllaw mewn hyfforddiant athrawon, Geoff Petty.

Bydd y bartneriaeth yn golygu y bydd y Coleg yn gweithio gyda Geoff Petty i ddarparu safonau’r DU mewn Methodoleg ac Addysgeg mewn Hyfforddiant Addysg Dechnegol a Galwedigaethol (TVET) a Hyfforddiant Athrawon yn Tsieina.

Roedd tîm rhyngwladol Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o lansio seremoni agoriadol ar-lein y rhaglen yr wythnos hon, gyda 50 o wahoddedigion.  Yn bresennol roedd yn y seremoni roedd Geoff Petty, Pennaeth Cynorthwyol Gweithrediadau Byd-eang Steve Rhodes; Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol James Llewelyn a’r Swyddog Rhyngwladol Angela Gill yng Ngrŵp Colegau NPTC ochr yn ochr ag arweinwyr ac athrawon o Goleg Economeg a Busnes Hainan a Sefydliad Youcheng a fydd yn cychwyn y rhaglen y mis hwn.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle i athrawon Tsieineaidd gael cipolwg ar sut mae dysgu ac addysgu yn cael eu cyflwyno yn y DU a mabwysiadu’r dulliau hyn yn eu gwaith eu hunain, gan ddarparu safon addysgu ragorol i’w myfyrwyr eu hunain yn y sector technegol a galwedigaethol.

Trwy ehangu set sgiliau athrawon a myfyrwyr, mae’r rhaglen yn gobeithio ysgogi symudedd cymdeithasol yn Tsieina. Canmolodd James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol Grŵp Colegau NPTC y rhaglen, gan egluro ei nodau i “gyflwyno safonau sy’n arwain y byd i athrawon yn Tsieina a chefnogi symudedd cymdeithasol mewn niferoedd mawr”.

Yn ogystal, mae darpariaeth y rhaglen wedi’i chynllunio i fod mor ecogyfeillgar â phosibl, gyda Geoff Petty ei hun yn dweud bod y cwrs yn “enghraifft berffaith o allforio arloesi gwyrdd yng Nghymru a’r DU”.

Gall yr hyfforddeion fod yn dawel eu meddwl eu bod mewn dwylo da gan fod llyfrau Geoff Petty, ‘Teaching Today’ a ‘How to Teach Even Better’ wedi cael dylanwad eang ar ddulliau addysgu yn y DU, gydag addasiadau wedi’u cyfieithu o’i waith hefyd yn dod yn werthwyr gorau yn Tsieina.

Ar ran Geoff Petty, Steve Rhodes, James Llewellyn, Angela Gill a phawb yng Ngrŵp Colegau NPTC, hoffem ddymuno pob llwyddiant yn eu hastudiaethau i’r holl gyfranogwyr.