Academi Chwaraeon Llandarcy yn cynnal Digwyddiad Llesiant y Gweilch a Gweithredu dros Blant

Ymunodd myfyrwyr yn Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) â’r Gweilch yn y Gymuned a’r Elusen Gweithredu dros Blant i gyflwyno digwyddiad llesiant i dros 550 o blant ysgol gynradd lleol.

Roedd y digwyddiad yn dathlu llwyddiant cynllun peilot, sy’n cael ei redeg gan Y Gweilch a Gweithredu dros Blant ar gyfer ysgolion lleol ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gan hyrwyddo gwydnwch a llesiant.

Cyflwynodd myfyrwyr Academi Chwaraeon Llandarcy weithgareddau hyfforddi a chwaraeon i ddisgyblion o Ysgol Gynradd Coed Hirwaun, Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm-nedd, Ysgol Gynradd Gorseinon, Ysgol Gynradd Pontlliw, Ysgol Gynradd Gatholig St Therese, Ysgol Gynradd y Melin, Ysgol Gynradd St Joseph, Ysgol Gynradd Lôn Las, Ysgol Gynradd Tregŵyr a Blaendulais. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau rygbi a phêl-rwyd yn ogystal â gemau ‘wipe out’ ‘chicken hero’ a chipio’r faner.

Roedd Tom Sloane, Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Gweilch, wrth ei fodd â llwyddiant y digwyddiad:

“Mae’r digwyddiad yn beilot o chwe mis o waith, gan gefnogi plant ysgol gynradd gyda’u gwydnwch a’u llesiant. Mae’r Coleg yn cefnogi’r digwyddiad yn fawr trwy ganiatáu defnydd o’u cyfleusterau gwych ac mae myfyrwyr y Coleg yn cynnal y sesiynau corfforol. Dyma’r digwyddiad cyfranogi torfol cyntaf i ni allu ei gynnal ers amser maith ac roedd yn wych dod yn ôl a gweld plant â gwên ar eu hwynebau eto.”

Roedd Gweithredu dros Blant, sy’n amddiffyn ac yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy ddarparu gofal a chymorth ymarferol ac emosiynol, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Caryl Dyer, eu Cydlynydd Gwasanaeth:

“Rydw i eisiau dweud diolch enfawr i Grŵp Colegau NPTC oherwydd heb eu cefnogaeth ni fyddem wedi gallu cael mynediad at y cyfleusterau eithriadol ac mae wedi caniatáu i ni gael y nifer o fyfyrwyr sydd gennym yma gyda ni heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i’r myfyrwyr sy’n cyflwyno’r gweithgareddau gan eu bod wedi bod yn wych gyda’r holl blant ac maent i gyd yn mwynhau eu hunain.”

Roedd Barry Roberts, Pennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Grŵp Colegau NPTC yn awyddus i gael myfyrwyr yn ôl i hyfforddi yn y gymuned: “Mae’n wych gweld digwyddiadau’n digwydd eto a bod y gymuned leol yn defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon gwych sydd yma yn Academi Chwaraeon Llandarcy. I’n myfyrwyr, does dim byd yn curo hyfforddi ar y maes ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle gwych i roi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y dosbarth ar waith.”

Cafodd y gwesteion yn y digwyddiad hefyd olwg gyntaf ar fflyd cerbydau’r Gweilch yn arddangos logo Grŵp Colegau NPTC yn falch ochr yn ochr â rhai partneriaid cymunedol eraill.