Partneriaeth ar gyfer Llwyddiant Busnes

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymuno â Tiqani Inc, i helpu i ddatblygu gweithlu medrus a chefnogi busnesau gan eu helpu i weithio’n fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd y cydweithrediad yn helpu i bontio’r bwlch rhwng academia, datblygiad galwedigaethol a datblygiad yn y gwaith ar gyfer ystod eang o ddiwydiannau. Bydd yn rhoi cyfle i arweinwyr a gweithwyr AD proffesiynol gael mynediad at raglenni Datblygu Talent Ardystiedig Prydeinig pwrpasol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eu hanghenion corfforaethol unigol.

Mae Tiqani Inc, a ffurfiwyd yn 2009, yn ddarparwr datrysiadau datblygu talent sy’n cynnwys tîm o anogwyr, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr sy’n dod o wahanol gefndiroedd gyda degawdau o arbenigedd yn y gwaith.  Mae ganddo ganolfannau yn Dubai, Saudi Arabia, Tunisia a Chanada ac mae wedi cefnogi busnesau ledled y byd.

Dywedodd James Llewellyn, Pennaeth Gweithrediadau Rhyngwladol Grŵp Colegau NPTC: “Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Tiqani Inc. a Grŵp Colegau NPTC wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gydweithio a gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu gweithlu medrus, gan wneud y mwyaf o botensial i helpu busnesau i weithio’n fwy effeithiol ac effeithlon.”