‘STAF’ Addysg Lee Stafford yn ymweld â Choleg Bannau Brycheiniog

Grŵp Colegau NPTC yw’r unig Goleg Addysg Bellach yng Nghymru i fod yn aelod o Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae’r tiwtoriaid yn derbyn hyfforddiant mewn ryseitiau trin gwallt unigryw drwy’r Academi, ac yn ddiweddar cawsant eu hyfforddiant cyntaf gyda’r Academi ers y pandemig yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Bu staff y Coleg yn cymryd rhan mewn wythnos o hyfforddiant gyda ‘STAF’ Addysg Lee Stafford (hyfforddi’r hyfforddwr), Tony Wood, y bydd ei arbenigedd yn eu helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y ryseitiau gwallt diweddaraf ar gyfer eu gwersi. Cafodd Tony gymorth hefyd gan aelod newydd o Addysg Lee Stafford, Laura Smith.

Ynglŷn â’r sesiynau hyfforddi, dywedodd Tony: “Mae Hyfforddiant Addysg Lee Stafford yr wythnos hon wedi bod yn anhygoel. Mae’r tîm wedi ymgymryd yn llwyr â’n systemau hyfforddi unigryw a’n hoffer addysg ysgogol a phrofedig.”

“Bydd Addysg Lee Stafford (LSE) o gymorth mawr i dîm y Coleg. Gyda hyfforddiant ysbrydoledig safonol, gall y tîm, ynghyd ag LSE, sefyll allan go iawn yn y dorf.”

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol y Coleg:

“Ar ôl pandemig Covid, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i ymgymryd â hyfforddiant Lefel 3 uwch gyda ‘STAF’, Tony Wood, o Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford. Mae ein holl ddarlithwyr a hyfforddwyr trin gwallt yn llawn cymhelliant, cyffro ac ysbrydoliaeth yn dilyn y pedwar diwrnod o waith ymarferol dwys a gynhaliwyd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.”

Mae gan yr ysgol fwy o gyfleoedd nawr bod cyfyngiadau wedi lleddfu, gyda gwasanaethau masnachol sy’n cael eu rhedeg gan y myfyrwyr yn ailagor.

Gall y cyhoedd drefnu apwyntiadau ar gyfer amrywiaeth o driniaethau gwallt a harddwch yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd. Gellir trefnu apwyntiadau trwy ffonio 0330 818 8371.

Wrth siarad am y cyfle i agor i’r cyhoedd eto, dywedodd Tamai Bufton, myfyriwr Therapi Harddwch: “Mae’n wych cael cleientiaid yn archebu i ddod i’r Coleg am driniaethau ar ôl covid. Mae gwasanaethu’r cyhoedd yn golygu y gallaf gael mwy o brofiad ymarferol o sut beth yw amgylchedd salon.”

Soniodd Tamai hefyd am fanteision astudio Harddwch, gan gynnwys fel dysgwr aeddfed, gan ddweud: “Rwy’n astudio’r cwrs ochr yn ochr â fy swydd mewn cartref gofal i’r henoed, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i fy astudiaethau. Gall cyrsiau amser llawn swnio fel ymrwymiad mawr os ydych chi mewn gwaith a bod gennych chi blant, ond maen nhw fel arfer yn 3 diwrnod yr wythnos.”

“Rwy’n gobeithio astudio mwy ym mis Medi, trwy ymrestru i astudio Trin Gwallt. Yn y tymor hir hoffwn fod yn hunangyflogedig ym maes gwallt a harddwch, gan arbenigo mewn triniaethau i’r henoed.”