Offer Peirianneg o’r Radd Flaenaf yng Ngholeg Y Drenewydd

Yn ddiweddar mae adran beirianneg Coleg Y Drenewydd wedi derbyn offer peirianneg gwaith metel o safon i hybu darpariaethau yn y Coleg. Mae’r peiriannau newydd o’r radd flaenaf yn cynnwys tri thurn newydd a thri pheiriant melino newydd.

Ar hyn o bryd mae’r Coleg yn cynnig llwybrau amser llawn a Phrentisiaeth i astudio Peirianneg Fecanyddol a Weldio ar Lefelau 2 a 3 a HNC mewn Peirianneg.  Mae’r adran beirianneg eisoes yn gartref i nifer o durnau a pheiriannau melino ond mae’n cydnabod y cyfleoedd y bydd y peiriannau datblygedig ychwanegol yn eu darparu.

Dywedodd Pennaeth Peirianneg Carl James: “Rydym wedi buddsoddi mewn offer peiriannu manwl gywir i sicrhau bod gennym yr offer diweddaraf i fyfyrwyr weithio gyda nhw. Mae’r peiriannau melino a’r turnau newydd hyn yn ychwanegu at ein hystod bresennol o offer gan roi cyfle i fwy o fyfyrwyr weithio ar yr un adeg yn ein gweithdai. Bydd yr offer newydd yn ein helpu gyda’r capasiti hyfforddi i ddiwallu anghenion cyflogaeth yr ardal a chryfhau ein partneriaethau gyda busnesau lleol.”

Dywedodd Keith Gallier, Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Y Drenewydd: “Mae’r offer yn cynnwys peiriannau melino Mach VS 1 a Thurnau Mach L-1340.  Mae ein gweithdai peirianneg yn rhoi profiad realistig, ymarferol i fyfyrwyr a’r gallu i hyfforddi gan ddefnyddio ystod ehangach o fanylebau. Mae myfyrwyr yn frwdfrydig i ddysgu am yr ystod o gynhyrchion a gynhyrchir yn y modd hwn o rannau modurol ac awyrofod i lawer o gydrannau eraill. Bydd ychwanegu’r peiriannau newydd yn rhoi naws diwydiant, lle bydd myfyrwyr yn paratoi ac yn defnyddio’r turnau ar gyfer gweithrediadau turnio a pharatoi a defnyddio’r peiriannau melino i fanylebau manwl gywir ar gyfer siapio a thorri. Mae’r peiriannau’n fwy manwl gywir na’r offer blaenorol a nawr gall mwy o fyfyrwyr weithio ar brosiectau ar unrhyw un adeg.”

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Peirianneg.