Llwyddiant i Bêl-droedwyr y Coleg

Mae tîm pêl-droed bechgyn Grŵp Colegau NPTC wedi gorffen yn y pedwar uchaf yn y DU. Bu tîm pêl-droed y bechgyn yn cystadlu yn nhwrnamaint pêl-droed Cymdeithas y Colegau yn Nottingham gan gystadlu yn erbyn rhai o dimau pêl-droed colegau addysg bellach a  chweched dosbarth gorau yn y DU.

Cymhwysodd y tîm ar gyfer y twrnamaint trwy ennill y gystadleuaeth ranbarthol yng Nghymru oedd yn golygu eu bod yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Brydeinig. Chwaraeodd y tîm wyth gêm dros ddau ddiwrnod gan ennill pedair a cholli tair, gydag un gêm gyfartal. Curodd y tîm enillwyr y twrnamaint yn y pen draw, sef Coleg Yeovil 3-1 yn gynharach yn y twrnamaint ac roeddent yn falch iawn o’u perfformiadau ar draws gemau’r penwythnos.

Dywedodd y darlithydd chwaraeon Lindsay Piper: “Roedd y twrnamaint yn ddwys gyda phob gêm yn cael ei hennill neu ei cholli o ychydig. Roedd y gystadleuaeth yn galed, a gwnaeth y bechgyn waith gwych yn cynrychioli’r coleg a Chymru”.

Roedd Tyrone Cadeau a Roan Piper, myfyrwyr Academi Chwaraeon Llandarcy, yn rhan allweddol o lwyddiant y tîm yn y twrnamaint. Roedd y ddau hefyd yn rhan o dîm dan 18 oed ysgolion Cymru a enillodd darian canmlwyddiant 2022. Lloegr, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Chymru oedd yn cystadlu yn y twrnamaint, gyda Chymru yn gorffen ar frig y tabl am y tro cyntaf ers 41 mlynedd.

Chwaraeodd Tyrone a Roan ran allweddol yn llwyddiant y tîm dros y ddau fis diwethaf gyda Chymru yn cofnodi tair buddugoliaeth ac un golled dros eu pedair gêm. Llwyddodd Cymru i sicrhau’r bencampwriaeth gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Weriniaeth Iwerddon yng Nghaernarfon ddiwedd Ebrill, gyda Roan yn sgorio’r ail gôl. Bydd Roan a Tyrone yn teithio i’r Eidal yr wythnos hon i gynrychioli Cymru.

Llongyfarchiadau i bawb fu’n ymwneud â’r llwyddiannau gwych hyn. Da iawn fechgyn!