Mae Myfyrwyr Lleol yn Cynnal Digwyddiad Cynnar Jazz Aberhonddu – gyda ‘Waw Ffactor!’

Ddydd Iau diwethaf. Cynhaliwyd ‘Diwrnod Blasu’ ar gyfer Gŵyl Jazz Aberhonddu yn llwyddiannus gan grŵp o fyfyrwyr ifanc ysbrydoledig yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Mewn cydweithrediad â threfnwyr yr Ŵyl, Clwb Jazz Aberhonddu; Cafodd y digwyddiad ei gynllunio a’i reoli gan fyfyrwyr Busnes a myfyrwyr y Gyfraith o Goleg Bannau Brycheiniog ac fe’i cynhaliwyd y tu faes i’r Cwtch, sef Hyb Cymunedol y Coleg.  Roedd y digwyddiad yn hybu rhaglen mis Awst yr ŵyl eleni gyda cherddoriaeth fyw gan Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd a deithiodd i Aberhonddu ar gyfer y digwyddiad. Roedd y ‘Diwrnod Blasu’ hefyd yn cynnwys sgrîn enfawr gyda rholyn ffilm gan Tantrwm Digital Media, cwmni o fri sy’n cynhyrchu fideos a ffrydio byw o Gymru.  Roedd fideo yn cael ei ail-adrodd ar y sgrîn rholyn ffilm a oedd yn dangos hanes yr Ŵyl ac a gafodd ei gynhyrchu gan y myfyrwyr.

Mae’r digwyddiad yn dod ar ôl misoedd o gynllunio rhwng Clwb Jazz Aberhonddu ac Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth Coleg Bannau Brycheiniog.  Bob blwyddyn, mae ei myfyrwyr BTEC mewn Busnes a’r Gyfraith yn rheoli digwyddiad fel rhan o’u cwrs. Gyda chymorth staff a’r Clwb Jazz, roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am hyrwyddo a rheoli’r digwyddiad gan gyfrannu at faterion Rheolaeth, Iechyd a Diogelwch a Chyllid. Ar y diwrnod, cyfrannodd y myfyrwyr at gasglu arian ar gyfer yr Ŵyl Jazz drwy ofyn i’r cyhoedd ar y strydoedd roi arian, yn ogystal â gosod a stiwardio ar gyfer y band a’r gynulleidfa ddiolchgar.  Erbyn diwedd y dydd, lwyddodd y myfyrwyr i gasglu dros £100!

Dywedodd myfyriwr Busnes a’r Gyfraith, Lucy Hardy a oedd yn gyfrifol am godi mwy na neb arall: “Roeddwn i wrth fy modd i helpu i farchnata’r digwyddiad.  Roedd trio gwerthu i’r bobl a oedd yn cerdded heibio yn fy gwneud i fi deimlo bach yn anghysurus, ond dwi’n meddwl bod ein holl ddosbarth wedi gwneud yn arbennig o dda i godi sut gymaint o arian ar gyfer yr Ŵyl.  Cawson ni hwyl a sbri yn bendant heddiw.”

Roedd cael mwy o bobl ifanc i gyfrannu at drefnu digwyddiadau’r Ŵyl Jazz yn rheswm allweddol i’r Clwb Jazz awgrymu cydweithredu, syniad a gafodd ei groesawu gan staff a myfyrwyr y Coleg.

Mae myfyrwyr sy’n astudio gradd mewn Busnes, Rheolaeth a TG hefyd yn cymryd rhan trwy helpu ar y Diwrnod Blasu a chyflawni rolau i helpu gyda’r Ŵyl sy’n dod yn fuan.

Mae myfyriwr gradd yn ei hail flwyddyn, Natalie Downton, yn Drefnydd yr Ŵyl erbyn hyn, gan weithio ar sail lawrydd i gyd-fynd â’i hastudiaethau.  Ddydd Iau, aeth Natalie â chriw ffilmio o dîm yr Ŵyl ar daith o gwmpas Aberhonddu i gyfweld â phobl mewn dull ‘vox-pop.’ Cafodd staff a myfyrwyr eu ffilmio gan y criw hefyd ar y Diwrnod Blasu a chynhaliwyd cyfweliadau hefyd.

Wrth drafod ei rôl, dywedodd Natalie: “Dwi wir wrth fy modd yn gweithio gyda Gŵyl Jazz Aberhonddu eleni. Roedd mynd o gwmpas y dref gyda’r criw ffilmio yn brofiad llawn hwyl ac roedd yn beth gwych cael cyfweld â llawer o bobl newydd a gweld y gymuned yn rhyngweithio â’r Diwrnod Blasu.  Roedd y band a’r sgrîn rholyn ffilm yn ychwanegu bach o ‘waw ffactor’ i wneud heddiw yn sbesial.”

Ychwanegodd Christine Davies, Pennaeth Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yng Nghrŵp Colegau NPTC:

“’Dwi wrth fy modd gyda’r perthnasoedd ardderchog sydd wedi eu datblygu rhwng trefnwyr Jazz Aberhonddu a staff a myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog.  Mae hyn wedi darparu profiad heb ei ail i’r myfyrwyr gymhwyso eu sgiliau damcaniaethol at ddigwyddiad byw o fri, gyda’r myfyrwyr Busnes yn cymryd y llyw drwy’r amser.

“Hoffai’r Coleg ddweud diolch i’n tiwtoriaid Busnes Robin Flower, Romina West a Michelle Dorise-Turrall am eu gwaith caled wrth gefnogi’r myfyrwyr, a Matthew Tomlin yn ein tîm Marchnata am ei gymorth. Cefnogwyd y lansiad hefyd gan yr Ensemble Jazz o’r Adran Gerddoriaeth yng Ngholeg Castell-nedd ac roedd hyn oll, yn ogystal â chefnogaeth gan y trefnwyr Jazz Aberhonddu sef – Lynne, Roger a Sharon – yn rhoi hwb go iawn i’r digwyddiad lansio byw y tu allan i’r Cwtch.”

Er mwyn gweld pwy sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu ar gyfer mis Awst, ewch i www.breconjazz.org. Y prif ddyddiau yw dydd Sul 7 Awst, y penwythnos o ddydd Gwener 12 Awst tan ddydd Sul 14 Awst, dydd Sadwrn 20 Awst, a dydd Sul 21 Awst.

Yn y cyfamser, mae croeso i unrhyw un sydd wedi cael ei ysbrydoli gan y digwyddiad hwn i astudio Busnes wneud cais i Goleg Bannau Brycheiniog cliciwch isod;

Cwrsiau Coleg Bannau Brycheiniog