Ffasiwn y Dyfodol wedi’i hysbrydoli gan Dreftadaeth y Fro

Mae myfyrwyr mewn Celf a Dylunio yng Ngrŵp Colegau NPTC – Coleg Y Drenewydd ym Mhowys – wedi bod yn cydweithio â Fashion-Enter Ltd Wales ac rydym wrthi’n ymbaratoi i’r eithaf ar gyfer sioe ffasiwn ffantastig a gynhelir y mis nesaf.

Diolch i’r peiriant argraffu digidol Kornit Presto yn Fashion-Enter, mae’r myfyrwyr wedi cael y cyfle i greu eu ffabrigau unigryw eu hunain a nawr, gyda chymorth y tîm Fashion-Enter Wales, maent yn bwrw iddi i dorri patrymau a gwnïo eu dyluniadau unigryw.

Cynhelir y sioe ‘Made in Wales’ ddydd Gwener 8 Gorffennaf yn warws trawiadol y Sioe Frenhinol Cymru, adeilad gyda hanes dwfn ym maes ffasiwn.  Bydd yn ddathliad o weithgynhyrchu a dylunio ar y cyd a fydd yn rhoi’r Drenewydd a ‘Made in Wales’ yn ôl ar fap y byd ffasiwn yn blwmp ac yn blaen.  Gyda’r cyflwynydd arobryn Mari Lövgreen, enillydd Bafta Cymru, a Siaradwr Gwadd Simon Platts sef y Cyfarwyddwr dros Gyrchu Cyfrifol ar gyfer ASOS a Jenny Holloway Prif Weithredwr Fashion Enter. Bydd y digwyddiad hefyd yn agored i’r cyhoedd a bydd nifer gyfyngedig o docynnau ar gael. Bydd ymwelwyr yn cael cipolwg ar y byd ffasiwn, y dyluniadau unigryw, cynaliadwyedd a gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn. Ar ôl dwy sioe ffasiynau ar y bompren, bydd finale enfawr a pharti yn dod â’r digwyddiad at ei ben.

Dywedodd Carys Jones, darlithydd Celf a Dylunio: “Mae cyffro go iawn yn yr adran Gelf wrth i’r digwyddiad ddod yn fuan.  Rydyn ni wrthi nawr yn gweld dyluniadau’r myfyrwyr yn cael eu gwireddu wrth i ni gychwyn ar y broses weithgynhyrchu gyda Fashion-Enter. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle unigryw i’n myfyrwyr weithio ar frîff byw ar y cyd â diwydiannau ar garreg ein drws.” 

Dywedodd Tasha Perry, myfyriwr Celf a Dylunio: “Dwi wedi bod yn gweithio ar ddetholiad ffasiwn sydd wedi’i ysbrydoli gan Laura Ashley. Mae’r prosiect yn gyfle hynod o dda i ni arddangos ein gwaith a chael cipolwg ar y diwydiant ffasiwn.”

“Dwi wrth fy modd yn aros i’r sioe ffasiwn. Fel arfer mae pethau fel hyn yn cael eu cynnal mewn dinasoedd mawr, felly mae’n ffantastig bod y fath digwyddiad yn digwydd yn Y Drenewydd.  Dwi’n methu aros i weld fy nyluniadau yn y sioe.” Ychwanegodd Tianna Green, myfyriwr Celf a Dylunio.

Chwilio ‘Made in Wales’ yn www.eventbrite.co.uk i fwcio eich tocyn AM DDIM.

Cynhelir ‘Made in Wales – The Fashion Event ‘ddydd Gwener 8 Gorffennaf yn Hyb Focus Enterprise, 3ydd Llawr, Adeilad Pryce Jones, Warws y Sioe Frenhinol Cymru, 17 Ffordd Hen Kerry, Y Drenewydd, Powys, Cymru SY16 1BJ.