Hazel ar ei Ffordd i’w 4ydd Gemau’r Gymanwlad

Bydd Hazel Wilson, Rheolwr Prosiect Trawsnewid ADY y Coleg yn y Drenewydd, yn Rheolwr Tîm Bowlio Merched Cymru am y pedwerydd tro yn olynol ar ôl cael ei dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad eleni a gynhelir yn Birmingham ym mis Gorffennaf.

Mae’r tîm sy’n mynd gyda Hazel yn cynnwys 14  o athletwyr yn cystadlu yn y senglau, parau, triawdau a phedwarau dynion a merched, y para athletwyr dynion a pharau cymysg i’r rhai â nam ar eu golwg. Mae gan lawer o’r athletwyr brofiad ar ôl cystadlu mewn gemau cymanwlad blaenorol gydag Anwen Butten Llanbedr Pont Steffan yn cystadlu yn ei 6ed gemau, sy’n record i athletwraig o Gymru, Caroline Taylor Berriew yn ei 3ydd gemau a Laura Daniels Castell-nedd yn ei 2il Gemau, gyda Sara Nicholls Llandeilo ac Ysie White Dinbych-y-pysgod yn ymddangos am y tro cyntaf yng ngemau’r Gymanwlad.

Mae’r trefniadau ar gyfer Gemau Birmingham yn dechrau cyn gynted ag y bydd Gemau yr Arfordir Aur 2018 yn dod i ben a bu’n rhaid i Reolwyr y tro hwn weithio drwy heriau’r pandemig i gyflwyno digon o dystiolaeth i gefnogi chwaraewyr ar gyfer y broses ddethol.

Meddai Hazel, ‘Rwyf wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer fy 4ydd Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham 2022, fel Rheolwr Tîm Bowlio Merched Cymru.  Mae Seremoni Agoriadol y Gemau ar 28ainGorffennaf gyda’r bowls lawnt yn dechrau yn Leamington Spa ar y 29ain.  Bydd bowls lawnt Cymru yn mynd â thîm o athletwyr dawnus profiadol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw, ynghyd â’r Tîm Dynion a Rheolwyr y Tîm Para athletwyr.

Mae bod yn Rheolwr Tîm yn golygu bod yn hynod drefnus o ran pob agwedd ar baratoi athletwyr a sicrhau eu bod y gorau y gallant fod ar gyfer y Gemau.  Mae bod yn rhan o Dîm Cymru yn anrhydedd enfawr i’r holl chwaraewyr a rheolwyr a phan fyddwch chi’n gwisgo’r crys Cymru hwnnw does dim teimlad arall tebyg i gael.  Mae’r awyrgylch yn y gemau’n llawn tensiwn ac yn gyffrous ond mae’r profiad heb ei ail ac yn un na fydd neb byth yn ei anghofio.  Rydym wedi bod i’r ICC yng Nghasnewydd yn ddiweddar i gasglu ein cit Tîm Cymru ar gyfer y gemau sy’n anhygoel ac  mae’n adeiladu ar Ymgyrch Tîm Cymru sy’n canolbwyntio ar adeiladu amgylchedd cryf ac unedig, ymdrechu i gyflawni, a chyrraedd penllaw dyheadau’r athletwyr eu hun.

Mae cyfanswm o 106 o athletwyr wedi’u cyhoeddi ar draws 11 o gampau, yn dilyn enwebiad gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol neu drwy gymhwyster chwaraeon, a chadarnhad dethol gan banel dethol Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Dywedodd Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rydym nid yn unig yn falch o’r dalent eithriadol rydym wedi’i dewis, ond hefyd yn falch o ymddygiad a phroffesiynoldeb ein hathletwyr a nodir yn aml ymhlith ein cyfeillion sy’n rhan o Chwaraeon y Gymanwlad. Roedd Arfordir Aur 2018 yn sicr yn Gemau i’w cofio, ac rydym yn hyderus y bydd Tîm Cymru yn gwneud eu marc yn Birmingham mewn ffordd gadarnhaol.”