Myfyrwyr Gorau’r Gyfraith yn Cael eu Gwobrwyo

Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau’r Gyfraith Grŵp Colegau NPTC eleni. Wedi’i noddi gan Jennifer Melly Law, dychwelodd y gwobrau ar ôl seibiant byr oherwydd y pandemig.  Gwobrwywyd Kate Williams, Rachel Staples a Carys Smith am fod y myfyrwyr y Gyfraith sydd wedi cyflawni orau yn ystod blynyddoedd academaidd 2019-2021 yn y seremoni a gynhaliwyd gan Jennifer Melly Law, sydd wedi’i leoli yng Nghastell-nedd.

Dywedodd Naomi Davies, Rheolwr Sgiliau Craidd a Darlithydd y Gyfraith: “Dangosodd y tri myfyriwr ymrwymiad eithriadol i’w hastudiaethau ac roeddent yn llysgenhadon gwerthfawr i’r Coleg mewn digwyddiadau fel Nosweithiau Agored a Diwrnodau Blasu. Pan symudodd gwersi Rachel a Carys ar-lein, roedden nhw mor frwdfrydig yn ystod dysgu o bell ag y buont yn yr ystafell ddosbarth.”

Mae gan y Coleg draddodiad balch bod llawer o’i fyfyrwyr Safon Uwch y Gyfraith yn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith yn y brifysgol. Ar ôl cwblhau eu Safon Uwch yng Ngrŵp NPTC, mae Kate wedi mynd ymlaen i gwblhau ei gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick ac mae Carys ar hyn o bryd yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y ddwy yn gwneud profiad gwaith yn Jennifer Melly Law yr haf hwn. Bydd Rachel yn dechrau trydedd flwyddyn ei gradd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.

Mae’r Coleg yn dymuno’r gorau i Kate, Rachel a Carys ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus.