Cyfamod y Lluoedd Arfog – Ymgysylltiad Cymunedol

Fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn gweithio’n galed i wneud yr Ardd Goffa newydd yn y Bulldogs ym Mhort Talbot yn llwyddiant. Mae’r Ardd Goffa wedi’i hadeiladu er cof am wirfoddolwyr a gollwyd yn ystod y pandemig. Bu adrannau Peirianneg, Adeiladwaith a Garddwriaeth y Coleg yn cydweithio i arddangos sgiliau rhagorol a gwybodaeth broffesiynol staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Mae’r Coleg yn helpu i gefnogi cyn-filwyr mewn sesiynau galw heibio yn y Bulldogs. Mae Petra Williams, Uwch Swyddog Cydnerthedd a Llesiant y Coleg wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliad ers mis Ionawr ac wedi adeiladu partneriaeth ragorol gyda Chyn-filwyr lleol y Fyddin ac mae’n bwynt cyswllt cyntaf yn enwedig gyda’r prosiect teimladwy hwn.

Dywedodd Rheolwr Coleg Castell-nedd Dave Rush: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o gydweithio rhwng y Coleg a’r gymuned ehangach. Aeth dyluniad a chwblhau’r gerddi y tu hwnt i bob disgwyl.”