Canol y Llwyfan ar gyfer Academi Gerdd Coleg Castell-nedd

Mae myfyrwyr talentog o Academi Gerdd Coleg Castell-nedd yn taro’r holl nodau cerddorol cywir ac maent i gyd wedi ennill Gradd 8 mewn Theatr Gerddorol gyda naill ai Teilyngdod neu Ragoriaeth ar ôl clyweliadau gyda Theatr Gerddorol Ieuenctid Prydain (BYMT).

Mae’r cymhwyster yn gymhwyster a gydnabyddir gan Trinity Laban, (Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance) ond maent wedi cyflawni llawer mwy ar ben hynny hefyd.  Maent wedi bod yn rhan o brosiectau amrywiol ac yn parhau i berfformio er llawenydd cynulleidfaoedd wrth barhau i ddysgu gan y gorau yn y diwydiant.

Yn ddiweddar, roeddent wedi cyfarfod ac wedi gweithio gydag Andy Stott, Pennaeth Cerddoriaeth Boblogaidd yn y Royal Northern College of Music ac aethant i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer yr Ŵyl Whirlwinds. Mae’r ŵyl sy’n para am benwythnos yn dathlu artistiaid chwythbrennau o fri yn cynnwys y sacsoffonydd Courtney Pine o Brydain, yn ogystal â gweithiau ar y cyd â myfyrwyr, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau gwerin gwlad.

Y mis nesaf, bydd Ensemble Jazz y Coleg yn perfformio yn y Royal Albert Hall fel rhan o’r ‘Music for Youth Proms’ ac mae perfformiadau eraill yn cynnwys:

  • Tachwedd 9, perfformiadau HND yn Theatr Nidum, Coleg Castell-nedd – Blwyddyn 2 a’r band HND – Blwyddyn 1 a 2
  • Tachwedd 22, Gwŷl y Gaeaf yn Eglwys Dewi Sant yng Nghastell-nedd
  • Rhagfyr 8, Dathliad y Nadolig, yn Theatr Nidum, Coleg Castell-nedd
  • Rhagfyr- 12 & 13, sioeau byw BTEC a HND yn Theatr Nidum, Coleg Castell-nedd.

Dywedodd y darlithydd cerddoriaeth Carolyn Davies: “Rydyn ni’n falch iawn o’u doniau ac wrth ein bodd eu bod wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhai gweithdai gwych a all eu hysbrydoli bellach.”