Coleg yn Lansio Rhaglen Cyflogwr Preswyl

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi lansio ei raglen Cyflogwr Preswyl yng Ngholeg Castell-nedd ac mae’n gweithio gyda chyflogwyr lleol i helpu myfyrwyr i fod yn ‘barod am yrfa’.

Jeremy Miles MS and dignitaries cutting the ribbon at the Employer in Residence Launch at Neath College.

Y rhaglen yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae eisoes ar waith yng Ngholeg y Drenewydd sydd wedi bod yn rhedeg y fenter ers mis Tachwedd diwethaf.

Mae’r rhaglen Cyflogwr Preswyl yn eistedd o fewn Biwro Cyflogaeth y Coleg, a adwaenir fel Parod am Yrfa yn fewnol ac mae’n siop un stop i fyfyrwyr, gan eu cefnogi gyda sgiliau menter a chyflogadwyedd a darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi canlyniad cyflogaeth neu hunan-gyflogaeth cadarnhaol. Gall myfyrwyr ymweld â’r biwro i gael cymorth gyda chyngor gyrfa, llunio CV ac ysgrifennu ceisiadau, ffug gyfweliadau, cymorth i ddechrau busnes ac unrhyw ymholiadau gyrfa eraill a allai fod ganddynt.

Yn rhan o’r rhaglen, mae cyflogwyr yn ‘meddiannu’ y biwro am y dydd, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gael yr un cyngor ac arweiniad ag arfer, ond bydd y cymorth a’r cyngor yn dod yn uniongyrchol gan y cyflogwr, gan roi mynediad unigryw i fyfyrwyr i’w darpar gyflogwyr y dyfodol a’r cyngor wedi’i deilwra y gall y cyflogwyr hyn ei gynnig. Bydd nid yn unig yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ond bydd yn agor eu llygaid i’r cyfleoedd ystyrlon sydd ar gael yn yr ardal, gan godi’r dyhead i ddilyn eu gyrfaoedd eu hunain yn lleol.

Y gobaith yw y bydd y fenter yn cael yr un effaith ag y mae’n ei chael yng Ngholeg y Drenewydd lle mae 15 o gyflogwyr yn cymryd rhan ac yn cael slotiau rheolaidd ar safle’r Coleg.

Lansiodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y rhaglen yn swyddogol a llongyfarchodd y Coleg ar y fenter newydd yng Nghastell-nedd.

Jeremy Miles MS making a speech at the Employer in Residence Launch at Neath College.

“Mae’n ddatblygiad cyffrous cael busnes lleol yn dod i’r Coleg a rhoi cyngor i bobl ifanc ar sut i gael swydd a sut i ddechrau busnes yn ogystal â’r rhwydwaith o gysylltiadau sydd eu hangen ar bawb i allu cymryd y camau nesaf, felly mae’n ddatblygiad cyffrous.”

Un o’r cyflogwyr cyntaf i fanteisio ar y cyfle i fod yn gyflogwr preswyl oedd Tai Tarian a dywedodd ei Brif Weithredwr, Linda Whittaker: “Fel sefydliad sy’n gyflogwr mawr yn yr ardal yn ogystal â chyflogwr sydd wir yn cymryd hyfforddiant a dysgu parhaus staff o ddifrif, mae hwn yn gyfle gwych i addysgu pobl ifanc am y gyrfaoedd sydd ar garreg eu drws.  Rydym wedi bod mewn partneriaeth â’r Coleg ers ein sefydlu yn 2011 felly mae ein cyfranogiad wedi bod ar gymaint o lefelau sy’n anhygoel.”

Gan siarad ar ran y Coleg, dywedodd Gemma Charnock, Is-Bennaeth, Cysylltiadau Allanol: “Rydym yn parhau i weithio gyda chyflogwyr a bydd y rhaglen Cyflogwr Preswyl yn rhoi’r cyfle i ymgysylltu â myfyrwyr. Drwy gydweithio, gallwn eu helpu i fod yn barod am yrfa a rhoi’r sgiliau cywir iddynt, tra’n cynnig cyngor a chymorth i’w helpu i sicrhau cyflogaeth yn yr ardal.”

Os ydych yn gyflogwr lleol yn yr ardal a hoffech gymryd rhan yn ein rhaglen Cyflogwr Preswyl, cysylltwch â’n Huwch Swyddog Menter a Chyflogadwyedd Cara Mead ar 0330 808 9484