Stondin y Coleg yn Ennill y Wobr Gyntaf yn Nigwyddiad Defaid NSA Cymru 2023

Roedd yn ddiwrnod cyffrous i adrannau Amaethyddiaeth, Garddwriaeth ac Arlwyo Coleg Y Drenewydd yn Nigwyddiad Defaid Cymru Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol NSA yn  Aberhafesp, Powys. Yn ogystal â bod yn Enillydd y Stondin Fasnach Awyr Agored, daeth dau fyfyriwr y Coleg yn y chweched lle ar y cyd yn y gystadleuaeth Bugeiliaid y Genhedlaeth Nesaf.

Roedd tua 170 o stondinau masnach yn ogystal â chystadlaethau, seminarau ac arddangosiadau, gyda 40 brîd o ddefaid amrywiol yn cael eu harddangos.

Cymerodd pump o fyfyrwyr Amaethyddiaeth y Coleg ran yn y gystadleuaeth Bugeiliaid y Genhedlaeth Nesaf sy’n profi sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys defnyddio cerbyd sy’n addas ar gyfer pob math o dir (ATV), cneifio defaid, rheoli diadell a thrin defaid a thechnegau.

Daeth myfyrwyr Y Drenewydd Osian Lewis ac Euan Edmonds yn y chweched lle ar y cyd, allan o 23 o gystadleuwyr. Enwyd Menna Protheroe fel yr enillydd. Cefnogwyd y digwyddiad gan ein staff amaethyddiaeth, Martin Watkins, Neil Bowden a Mike Lewis a oedd yn feirniaid a stiwardiaid.

Cymerodd myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch, ynghyd â’u darlithwyr Linda Williams a Shaun Bailey ran mewn arddangosiadau coginio gyda Hybu Cig Cymru. Roedd yr arddangosiadau yn arddangos amrywiaeth o brydau o fwyd gyda chig oen Cymreig. Yn ystod y diwrnod daeth chwe ysgol gynradd i weld y cyflwyniadau hyn.

Crëwyd yr adrannau stondin ryngweithiol ar y cyd gyda buwch fwrw llo o faint naturiol, gêm adweithio gyda goleuadau o’r enw BATAK, cyfle i blannu hadau mewn potiau bach, beic cwad a Land Rover trydanol, diolch i Electric Classic Cars ECC. Gyda chynifer o bethau i’w gweld a’u gwneud, nid oes syndod bod y stondin wedi ennill y wobr am y stondin fasnach awyr agored orau.

Dywedodd Sue Lloyd Jones, Pennaeth Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth:“Roedd ennill y Stondin Masnach Awyr Agored Orau yn tystio i waith caled pawb yn y Coleg wrth ymbaratoi ar gyfer y digwyddiad hwn.  Peth hyfryd oedd clywed cynifer o bobl o’r gymuned ffermio yn dweud pa mor bwysig ydoedd i’r Coleg gael y fath gydnabyddiaeth.  Rydyn ni’n falch iawn o’r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth i fugeiliaid ac mae wedi bod yn hyfryd gweld cynifer o’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr yma yn cefnogi’r digwyddiad gyda rhai ohonynt yn gweithio i fusnesau lleol erbyn hyn.”