Myfyriwr Harddwch ar y Rhestr Fer am Wobr Fawreddog

Lucy Lewis with her Medals

Mae’r cyn-fyfyriwr Harddwch Cymhwysol Lucy Lewis o Goleg y Drenewydd wedi cael ei chydnabod am ei thalentau anhygoel drwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth VTCT 2023.

Gan ddathlu pen-blwydd VTCT yn 60, nod y gwobrau yw cydnabod ein myfyrwyr a’n partneriaid sy’n mynd yr ail filltir i ddangos rhagoriaeth mewn addysg alwedigaethol.

Gyda dros 500 o enwebiadau ysbrydoledig o bob rhan o’r DU, cafodd y gwobrau eu beirniadu gan lu o feirniaid uchel eu parch ar draws sectorau VTCT, iTEC a Skillsfirst, gan gynnwys y cyn Weinidog Gwladol dros Sgiliau a Phrentisiaethau, Y Gwir Anrhydeddus Anne Milton a Shelagh Legrave CBE DL, Comisiynydd Addysg Bellach, Adran Addysg.

Mae’r categori Myfyriwr y Flwyddyn a noddir gan Wella yn cydnabod myfyriwr eithriadol am ei waith, naill ai o fewn ei raglen astudio neu mewn perthynas â phrosiect penodol sy’n ymwneud â’i astudiaethau. Gall hyn gynnwys cyfraddau perfformiad neu gyflawniad uchel, ffyrdd arloesol o gyflwyno gwaith, mynd yr ail filltir, gwneud gwaith gwirfoddol ochr yn ochr â’i astudiaethau, neu ddefnyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu yn ystod ei gymhwyster i greu cyfle iddo’i hun i gryfhau ei gofnod cyflawni.

Mae Lucy eisoes wedi profi llwyddiant ar ôl ennill medal aur yn Rowndiau Terfynol Inspiring Skills 2020 ar gyfer Therapi Harddwch, a medal efydd am gystadlu yn y categori Ymarferydd Therapi Harddwch yn 2021 ar gyfer WorldSkills.

Bydd yn rhaid i Lucy aros tan 13 Gorffennaf pan fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad mawreddog yng Ngholeg Milton Keynes i weld a fydd yn cael ei choroni’n ‘Myfyriwr y Flwyddyn 2023’.

Pob lwc Lucy!