Gwaith Celf a Dylunio ysbrydoledig

Newtown College staff member Carys Jones and female stakeholder pictured with easels advertising a new course in Newtown College reception.

Mae Adran Celf a Dylunio Coleg y Drenewydd wedi cael llawer i’w ddathlu eleni.  Mae’r adran wedi gweld niferoedd uchel o ymwelwyr yn dod i weld prosiectau diwedd blwyddyn y myfyrwyr. Maent wedi cael Gwobrau Myfyrwyr yn cydnabod sgiliau creadigol a gwaith caled y dysgwyr ac mae’r adran wedi cael caniatâd i ehangu ei rhaglen o gyrsiau i feysydd gwaith newydd gan ddechrau ym mis Medi.

Mae arddangosfa ‘Proses 23’ myfyrwyr Celf a Dylunio a Chynhyrchu Cyfryngau Creadigol wedi gweld amrywiaeth o brosiectau’n cael eu harddangos sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a archwiliwyd o gerflunio, ffasiwn, peintio, darlunio, graffeg, tecstilau, animeiddio, gwneud modelau, argraffu, a ffotograffiaeth.

Mae’r arddangosfa wedi bod o ddiddordeb arbennig i ddarpar fyfyrwyr gan ei bod yn arddangos y math o waith y mae myfyrwyr yn ei wneud a’r cyfleusterau stiwdio, cymorth technegol, ac arbenigedd staff academaidd sydd ar gael ar draws Celf, Dylunio a’r cyfryngau Creadigol.

Mae gwaith celf o’r arddangosfa i’w weld nawr yn Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd. Cafwyd cyflwyniad yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr. Roedd y gwobrau diwedd blwyddyn i fyfyrwyr yn cydnabod y sgiliau creadigol a’r rhai sydd wedi rhagori er gwaethaf adfydau. Roedd hefyd yn gyfle i gymeradwyo dilyniant myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen boed hynny i Brifysgol, lefel nesaf y cwrs neu fentro i ddechrau rhedeg busnes neu chwilio am waith.

Mae’r Coleg hefyd yn falch o gyhoeddi ei gwrs Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy Lefel 3 newydd fydd yn dechrau ym mis Medi. Mae’r cwrs dwy flynedd yn ymdrin â sgiliau technegol ym meysydd ffasiwn a dylunio tecstilau gyda phwyslais yn cael ei roi ar gynaliadwyedd.

Dywedodd Carys Jones, Darlithydd Celf Coleg y Drenewydd: “Mae’r myfyrwyr unwaith eto wedi gwneud ymdrech enfawr, ac roedd yn wych gweld eu prosiectau gorffenedig cyffredinol.  Maen nhw i gyd wedi symud ymlaen cymaint dros y flwyddyn a hoffem ddymuno’r gorau iddynt i’r dyfodol.”

Aeth Carys ymlaen i ddweud: “Rydym hefyd wrth ein bodd i ehangu ein harlwy yn yr adran Celf a Dylunio i gynnwys Lefel 3 mewn Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’n ychwanegiad gwych, a dyma’r lleoliad perffaith wedi’i amgylchynu gan fentrau ysbrydoledig ar gyfer uwchgylchu ynghyd â bod yn ardal ag eiconau ffasiwn a thecstilau.”