Simon Weston CBE yn siarad mewn Cynhadledd Iechyd Meddwl

Simon Weston CBE on stage at Theatr Brycheiniog giving a speech.

Cynhaliodd Grŵp Colegau NPTC ei Gynhadledd Iechyd Meddwl flynyddol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, yr wythnos hon. Roedd y Gynhadledd yn ddiwrnod o areithiau a hyfforddiant ar gyfer Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl y Coleg. Roedd digwyddiadau’r diwrnod yn cynnwys Simon Weston CBE yn siarad am wydnwch personol, ynghyd â chyflwyniadau gan PAVO a Chyflogwyr i Ofalwyr (EfC).

Roedd sesiwn siarad a holi ac ateb ysbrydoledig Simon Weston CBE yn ymdrin â’i brofiadau fel cyn-filwr o Ryfel y Falklands, brwydrau yn erbyn afiechyd meddwl a chaethiwed, a sut gallwn ni a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw i gyd ddod o hyd i wydnwch yn ein hunain.

Rhoddodd Weston sgwrs fer i’r gynulleidfa am ei brofiadau bywyd a oedd yn cynnwys ffilm fideo o’i fywyd cyn ac ar ôl iddo gael llosgiadau o’r ymosodiad ar RFA Sir Galahad yn ystod y rhyfel. Roedd wedi ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig yn 15 oed ac er gwaethaf ei brofiadau negyddol, disgrifiodd y penderfyniad fel “un o’r penderfyniadau gorau wnes i yn fy mywyd.”

Ychwanegodd: “Fe wnes i ymuno oherwydd gwnes i gamgymeriadau ac roeddwn i mewn trwbwl pan oeddwn i’n iau. Rhoddodd [ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig] ffocws a disgyblaeth i mi oherwydd eich bod mewn sefyllfaoedd lle mae eich bywyd yn dibynnu ar eraill, a’u bywydau nhw yn dibynnu arnoch chi.”

O ran y trafferthion iechyd meddwl a gafodd wrth ddychwelyd adref o’r Rhyfel, dywedodd: “Yn allanol, roeddwn i’n iawn…ond roeddwn i’n yfed gormod, yn bwyta gormod, ac fe ddaeth yn sgil yr hunllefau PTSD roeddwn i’n eu cael. Roeddwn i’n rholio o gwmpas ar lawr fy ystafell wely yn meddwl fy mod ar dân yn ceisio diffodd fy hun.”

Roedd wedi dod o hyd i rywfaint o dawelwch meddwl mewn cyfarfod gyda’r peilot a daniodd y bomiau at yr RFA Sir Galahad, Carlos Cachón. I’w helpu i wella o PTSD, fe wnaethant gyfarfod fel y gallai Simon edrych yn ei lygaid a siarad ag ef; “i weld a oedd ganddo lygaid caredig.” Eglurodd Simon: “Efallai bod Carlos wedi dechrau fy mhroblemau ond fe helpodd hefyd i ddod â hwy i ben,” gyda’r tawelwch meddwl o’r cyfarfod, gan ychwanegu nad yw’n ei gasáu nac yn digio ato heddiw: “Peidiwch â thrafferthu casáu pobl. Beth yw’r pwynt? Mae’n eich clwyfo bob dydd ac mae’n eich troi chi’n ddioddefwr.”

Rhoddodd Simon hefyd drosolwg o bethau cadarnhaol eraill yn ystod ei adferiad, yn bennaf ei briodas, ei gyfeillgarwch â chyn-filwyr eraill yn ei ward ysbyty, a’i allu i helpu eraill trwy waith elusennol. Mae Simon yn eiriolwr hirsefydlog dros gefnogi cyn-filwyr yn well, a bu hefyd yn trafod ei waith diweddar yn hyrwyddo gwell triniaeth i’r rhai sy’n dioddef o losgiadau croen ac anhwylderau cysylltiedig.

Pan ofynnwyd iddo sut y gall ein Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gael effaith gadarnhaol ar y bobl o’u cwmpas, atebodd: “Rwy’n eiddigeddus o lawer ohonoch, oherwydd rydych wedi canfod eich perthnasedd yn gynnar iawn yn helpu pobl ifanc, ac rydych yn eu helpu hyd yn oed os nad ydynt yn gwybod hynny eto. Rwy’n hoffi fy mywyd ac rwy’n hoffi fy nghyfraniad. Daw eich gwydnwch o’ch cyfraniad hefyd.”

Aeth Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC, i’r un ysgol â Simon Weston CBE pan oeddent yn tyfu i fyny. Ar ôl aduno ar gyfer y digwyddiadau heddiw, dywedodd: “Mae’r gynhadledd heddiw wedi bod yn gyfle gwych i’n Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ymgysylltu â’i gilydd mewn diwrnod hyfforddi. Bydd hyn, heb os, yn effeithio ar ansawdd y cyngor a’r arweiniad a roddwn i’n myfyrwyr.”

“Rydyn ni wedi cael siaradwyr eithriadol heddiw, ac mae’n rhaid i mi roi sylw arbennig i Simon Weston CBE. Rwy’n gwybod y bydd ei stori’n effeithio mewn ffordd mor gadarnhaol ar y bobl a gafodd y cyfle i’w glywed. Rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau â’r digwyddiad blynyddol hwn oherwydd mae codi materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn parhau i fod yn hynod o bwysig yn y byd sydd ohoni.”

Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn dîm cymorth yn y Coleg sy’n helpu i gyfeirio eu cydweithwyr a dysgwyr at wasanaethau llesiant proffesiynol, ac ymdrin ag argyfyngau iechyd meddwl pan fyddant yn digwydd yn y gwaith. Roedd cynhadledd eleni yn dilyn ymlaen o ddigwyddiad tebyg y llynedd, lle’r oedd y dyfarnwr Nigel Owens hefyd wedi cyflwyno ar afiechyd meddwl i’r Coleg.