Gwobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn ar gyfer Addysg Bellach

Student Lilly Owen with her award certificate with staff members at Newtown College.

Llongyfarchiadau i Lily Owen, myfyrwraig yng Ngholeg y Drenewydd, am ennill Gwobr Addysg Bellach Cymdeithas Sir Drefaldwyn 2023.

Mae Cymdeithas Sir Drefaldwyn yn sefydliad elusennol sydd wedi’i leoli yn Llundain y mae gan ei haelodau ddiddordeb parhaus yn Sir Drefaldwyn yng Nghymru. Mae’r sefydliad wedi cefnogi ac annog myfyrwyr yn y Coleg ers tro drwy roi cyfle i gael eu dewis ar gyfer eu gwobr Addysg Bellach.

Mae Lily Owen ar hyn o bryd yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Gofal Plant. Mae hi wedi defnyddio ei phrofiadau ei hun o ddyslecsia i gynllunio profiadau dysgu pwrpasol i gefnogi anghenion dysgu unigol plant. Mae Lily wedi datblygu diddordeb yn y testun sgemâu ar gyfer cefnogi dysgu plant ac mae’n ymdrechu i hybu dewisiadau plant.

Dywedodd y darlithydd Laura Thomas: “Llongyfarchiadau i Lily, mae hi’n haeddu’r wobr hon. Mae hi wedi gweithio’n galed i reoli ei hanghenion dysgu ei hun tra’n ymgorffori ei phrofiadau i edrych ar ffyrdd y mae plant yn dysgu a sut y gellir eu cefnogi. Mae Lily yn cyfrannu’n dda at drafodaethau, mae’n frwdfrydig iawn ac mae bob amser yn edrych i symud ymlaen.”

Diolchodd Rheolwr Coleg y Drenewydd, Steve Cass, i Margaret Jones o Gymdeithas Sir Drefaldwyn am gyflwyno’r Wobr ac am eu diddordeb parhaus a’u hymrwymiad i gefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc yn y Coleg.