Deg Myfyriwr o Grŵp Colegau NPTC ymhlith Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK

World Skill National Finalists announcement red and blue infographic

Mae deg myfyriwr o Grŵp Colegau NPTC wedi’u cyhoeddi ymhlith y 442 sydd wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a gynhelir rhwng 14eg ac 17eg Tachwedd mewn colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol a phrifysgolion ar draws Manceinion Fwyaf. Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn 51 sgil, yn amrywio o adeiladwaith digidol, iechyd a gofal cymdeithasol a gweithgynhyrchu ychwanegion i saernïo metelau a seiberddiogelwch.

Rydym yn llongyfarch ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol:

Toni Borgia – Technegydd Cyfrifeg

Elena Cioata – Technegydd Cyfrifeg

Rebecca Smith – Technegydd Cyfrifeg

Jazmin Williams – Melysion a Patisserie

Jordan Lingham – Atgyweirio Cyrff Moduron

Victoria Steele – Ailorffen Moduron

Gabrielle Wilson – Celfyddydau Coginio

Joshua Miles – Sgiliau Sylfaen: Garddwriaeth

Morgan Davies – Technegydd Labordy

Leon Cook – Datblygu Gwe

Bydd y cystadleuwyr yn y rownd derfynol yn rhan o dîm o 112 o fyfyrwyr a phrentisiaid o Gymru, sef chwarter y cystadleuwyr, a fydd yn brwydro am y safle uchaf yn y gystadleuaeth sydd i ddod.

Yn dilyn y gystadleuaeth, bydd enillwyr y medalau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog ddydd Gwener, 17eg Tachwedd yn Neuadd Bridgewater.

Yn ogystal â rhoi hwb i’w sgiliau a’u hyder, gallai cystadleuwyr sy’n gwneud argraff o dan bwysau rownd derfynol genedlaethol fod â siawns o gynrychioli’r DU yn y “Gemau Olympaidd Sgiliau” yn Shanghai 2026.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:

“Rwy’n llongyfarch pob un o’r Cystadleuwyr yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol. Gwyddom fod ein rhaglenni hyfforddi sy’n seiliedig ar gystadleuaeth yn cynnig gwerth a buddion gwirioneddol i’r person ifanc sy’n cymryd rhan, ond mae’r rhaglenni hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu eu haddysgwyr a’u hyfforddwyr wrth gyflwyno hyfforddiant sy’n bodloni safonau diweddaraf y diwydiant.

“Mae’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen genedlaethol yn ysbrydoliaeth wirioneddol ac yn dangos y sgiliau sydd gennym ni yn y DU. Yn ogystal â rhoi’r cyfle iddynt ddisgleirio byddwn yn rhannu eu teithiau gyrfa a’u straeon llwyddiant, fel y gallwn ysbrydoli mwy o bobl ifanc, o bob cefndir, i weld bod prentisiaeth neu addysg dechnegol yn llwybr o’r radd flaenaf i lwyddiant mewn gwaith a bywyd.”

Dywedodd Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC:

“Mae’r ffaith bod cynifer o’n myfyrwyr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w meysydd crefft ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y Coleg. Rydym yn gyson yn gwneud yn dda mewn cystadlaethau ym mhob disgyblaeth, ond mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf oll ar draws holl safleoedd ein coleg.

Rwy’n falch iawn o bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae’n wych gweld cynifer o’r myfyrwyr a enillodd fedalau yn y Gystadleuaeth Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru yn gynharach yn y flwyddyn symud ymlaen i gystadlu ar lefel genedlaethol.”

Gallwch ddarllen mwy am WorldSkills UK ac Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru, a gweld y rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol isod:

https://www.worldskillsuk.org/news/national-finalists-for-2023-announced/

https://inspiringskills.gov.wales/news/over-100-to-fly-the-flag-for-wales-at-uk-national-final