Cyn-fyfyriwr mewn Peirianneg yn Gyrru Dyfodol Electronig

Leighton Vaughan delivering a lecture to current engineering students

Daeth cyn-fyfyriwr ac entrepreneur Leighton Vaughan yn ôl i Goleg Castell-nedd i roi darlith ysbrydoledig i’n myfyrwyr Peirianneg. Mae Leighton yn gweithio yn Large Scale Locomotives Limited ac aeth i Goleg Castell-nedd yn 2004 lle yr oedd yn astudio ar y cwrs BTEC, Diploma Cenedlaethol Estynedig mewn Peirianneg.

Large Scale Locomotives Limited yw cwmni sy’n adeiladu a datblygu locomotifau a cherbydau o feintiau amrywiol at nifer o wahanol ddibenion. Astudiodd Leighton y Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC mewn Peirianneg o fewn i’r coleg ac wedyn symudodd ymlaen i radd faglor mewn Gweithgynhyrchu Systemau Peirianneg.  Wedyn, aeth ymlaen i weithio yn Halfords ac wrth weithio ar sail ran-amser, prynodd ychydig o offer sylfaenol.  Gyda’i hoffer a’i frwdfrydedd newydd dros beirianneg, datblygodd Leighton ei gynnyrch cyntaf a oedd yn locomotif a cherbydau ar raddfa fechan.

Llwyddodd Leighton i werthu ei gynhyrchion a oedd yn ei dro yn ei alluogi i brynu mwy o’r cyfarpar angenrheidiol i ddatblygu mwy o beiriannau. Aeth y broses hon yn ei blaen, gan alluogi Leighton i ddatblygu a cheisio syniadau a chynhyrchion newydd. Ar y dechrau roedd Leighton yn gweithgynhyrchu gartref, sut bynnag roedd cymaint o ddiddordeb yn ei gynhyrchion, penderfynnodd symud i weithdy 1500sq.ft. Erbyn hyn roedd gofyn i Leighton symud i safle hyd yn oed yn fwy, 5 gwaith yn fwy na’r un blaenorol. Ar hyn o bryd, mae Leighton yn gweithio ar brosiect sy’n anelu at adeiladu system rheilffordd fach newydd ym Mharc Gwledig Margam erbyn yr haf nesaf.

Mae Leighton yn arbenigo mewn trawsnewid hen locomifau diesel yn locomitfau eco-gyfeillgar hollol drydanol. Mae wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau ar draws y DU, yn cynnwys, Newby Hall, Parc Gwledig Pen-bre a Rheilffyrdd Clevedon.

Daeth Leighton yn ôl i’r coleg y mis ddibywyd wethaf i ddarparu darlith i rai o’n myfyrwyr Peirianneg ynglŷn â’i daith hyd yn hyn gan fanylu ar ei waith. Cafodd y myfyrwyr gyfle i weld rhai o locomotifau Leighton a’r gwahanol agweddau ar hanfodion locomotif.

Dyma ymateb Rhys Thomas, Dirprwy Bennaeth Peirianneg i ddarlith Leighton:

“Roedd hi wir yn bleser croesawu Leighton yn ôl a rhannu ei daith ysbrydoledig fel perchennog busnes blaengar ers iddo gyflawni ei gwrs BTEC gennym.  Mae wedi cymryd yr wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd ganddo yma a’u troi yn fenter busnes sy’n ffynnu. Rydyn ni’n hynod o falch o’n holl fyfyrwyr ac mae amseroedd fel hyn yn pwysleisio pwysigrwydd yr hyn yr ydyn ni yn ei wneud yma yn y coleg.”

Os hoffech ddilyn camre Leighton trwy astudio Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC, dilynwch y linc isod i weld y cyrsiau amrywiol sydd ar gael gennym.

Peirianneg