Mae Grŵp Colegau NPTC wedi’i enwi’n Goleg cymeradwy Beacon AOC

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o gael ei enwi fel coleg cymeradwy yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2023.  Mae’r gwobrau’n arddangos arfer gorau Colegau ar draws y DU, a’r rhai sy’n bodloni “Safon Beacon” yr AoC trwy ddangos lefel uchel o arloesi, effaith a chynaliadwyedd.

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi’i gymeradwyo yng nghategori Gwobr Jisc am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn Addysg Bellach am ei waith blaengar o fewn AI.

Nod y categori hwn yw dathlu enghraifft ragorol o’r ‘Defnydd o Dechnoleg’ a luniwyd yn ofalus i wella profiad myfyrwyr – mewn oes ddigidol.

Y Coleg oedd y sefydliad Addysg Bellach cyntaf yn y DU i gynnig gweithdai ar y cyd ag Intel a Tablet Academy. Roedd y rhaglen yn galluogi mynediad unigryw i gynnwys dysgu wedi’i alinio â’r cwricwlwm, ynghyd â chymorth i helpu i symud ymlaen ag ymgorffori AI mewn gwersi. Trwy gydol y rhaglen, enillodd myfyrwyr ddealltwriaeth ddamcaniaethol o AI, ei gyd-destun hanesyddol, a mewnwelediad i’w ystyriaethau moesegol a’i effaith gymdeithasol. Bu’r myfyrwyr hefyd yn archwilio tueddiadau a rhagolygon cyfredol AI, gan eu paratoi ar gyfer maes deinamig sy’n datblygu’n gyflym.

Dywedodd Kelly Fountain, Is-Bennaeth – Academaidd:

“Mae derbyn statws cymeradwy yn y gwobrau mawreddog hyn yn rhagorol. Mae’n ddathliad mor wych o’r gwaith enfawr y mae ein tîm yn ei wneud i gyflwyno profiad rhagorol i’n myfyrwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac mae’n fy ngwneud yn hynod falch o’u hymdrechion.

Mae’r categori yn arddangos prosiectau technoleg sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ‘norm’ ac mae cael ein cymeradwyo yn yr adran hon yn dyst i ba mor ddeinamig a blaengar yw’r Coleg a’r staff yma.”

Rhaid i’r Coleg aros tan ddydd Mawrth 14 Tachwedd yn awr pan fydd enwau’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi yng Nghynhadledd yr AoC yn Birmingham.