Mae Myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio Coleg Y Drenewydd yn disgleirio yn y Cynhyrchiad “The Addams Family”

The cast of the Adams Family production on Stage

Llwyddodd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio Coleg Y Drenewydd i ddenu cynulleidfaoedd gyda’u perfformiadau rhagorol o “The Addams Family”. Rhoddwyd cymeradwyaeth eiddgar gan y cynulleidfaoedd i’r perfformiadau a gynhaliwyd ar 16 a 17 Mai yn Theatr Hafren.

Nid oedd y tywydd braf ar y ddwy noson yn atal cynulleidfaoedd mawr yn y sioeau, gyda mynychwyr theatr wrth eu bodd i weld doniau ac ymrwymiad y myfyrwyr. Dangosodd y perfformwyr berthynas anhygoel ar y llwyfan, gan ddod â chymeriadau mympwyol ac annwyl “The Addams Family” yn fyw gyda dilysrwydd a medr.

Perfformiodd pob aelod o’r cast yn gadarn gyda llais grymus gan Wednesday sef Megan Gant, llais swynol yn mynegi geiriau Grandma a berfformiodd gan Ethan Andrews-Hardiman, Gomez a Morticia o fri, sef Blu Robinson a Tabitha Kendall – yn ogystal â pherfformiadau gwych gan Pugsley Millie Davies a Lurch Logan Titcombe a hiwmor doniol gan Uncle Fester Sage Maddock Hinks.  Heb son am weddill y cast a oedd i gyd yn dangos sgiliau gwych mewn actau dawns a goreograffwyd yn fedrus ac yn adrodd storïau ar lafar llawn mynegiant a hiwmor atyniadol wedi’i amseru’n berffaith.

“Rydyn ni’n hynod o falch o’n myfyrwyr” dywedodd Ruth Calvert darlithydd y Celfyddydau Perfformio, cyfarwyddwr y sioe a chyd-goreograffydd. “Roedd eu gwaith caled a’u hawydd dros y Celfyddydau Perfformio yn amlwg yn ystod pob golygfa.  Mae adborth cadarnhaol y gynulleidfa yn tystio i’w doniau a’u hymrwymiad.”

Ychwanegodd Elizabeth Hebden, Darlithydd y Celfyddydau Perfformio a choreograffydd y sioe “Roedd y myfyrwyr wedi ymrwymo’n llwyr i’w rolau gan gofleidio yn eu cymeriadau.  Mae wedi bod yn bleser i’w gweld yn datblygu a gweld eu llwyddiant o flaen cynulleidfaoedd.”

Rhannodd un aelod o’r gynulleidfa ei feddyliau wrth ddweud “Roedd y sioe wir yn ffantastig! Roedd perfformiadau’r myfyrwyr o’r radd flaenaf ac roedd yr hiwmor yn cael i bawb chwerthin yn uchel ac rydw i’n methu ag aros gweld eu camau nesaf.

Mae Coleg Y Drenewydd yn dal i gefnogi a meithrin doniau artistig ei fyfyrwyr, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a rhannu eu creadigrwydd â’r gymuned.  Mae llwyddiant  cynhyrchiad “The Addams Family” yn enghraifft ddisglair o ymrwymiad y coleg i ragoriaeth yn y celfyddydau perfformio.