Mae Grŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl i ddeg o’i fyfyrwyr sicrhau lle yn Rowndiau Terfynol y DU WorldSkills 2025.
Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr fydd yn cystadlu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn y rowndiau terfynol, a gynhelir yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd eleni.
Adnewyddu Modurol – Dafydd Jones
Celfyddydau Coginio – Eleri Davies
Sgiliau Sylfaen: Menter – Evan Vince
Sgiliau Sylfaen: Menter – Tyler Jones
Sgiliau Sylfaen: Menter – Kian Saunders
Sgiliau Sylfaen: Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Megan Evans
Sgiliau Sylfaen: Garddwriaeth – Alex Horton
Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty – Zara Fisher
Technegydd Labordy – Ashley Coles
Technegydd Labordy – Joseph Battle
Mae nifer y cystadleuwyr yn gosod Grŵp Colegau NPTC ymhlith y traean uchaf o ddarparwyr addysg bellach yng Nghymru, gyda Thîm Cymru yn cyfrif am 29 y cant o gystadleuwyr Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU.
Dywedodd Kathryn Dunstan, Dirprwy Brifathro: Masnachol, ac Arweinydd Sgiliau yn Grŵp Colegau NPTC: “Mae hwn yn gamp ragorol sy’n adlewyrchu cryfder ymroddiad y Coleg i addysg alwedigaethol ac i ddarparu sgiliau ymarferol sydd mewn galw uchel.”
Mae WorldSkills, sef y gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf, yn arddangos talent o fewn addysg alwedigaethol ledled y DU, gan dynnu sylw at bwysigrwydd sgiliau ymarferol a darparu llwyfan i fyfyrwyr gael cydnabyddiaeth genedlaethol.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae ein cystadlaethau yn profi sgiliau dysgwyr yn erbyn safonau’r diwydiant byd-eang, gan ddarparu llwyfan pwerus i arddangos eu doniau. Dros ddau ddiwrnod dwys o gystadlu, byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr a hyder, a fydd yn sbarduno eu gyrfaoedd ac yn gwneud economi’r DU yn fwy cystadleuol.
“Gyda chyflogwyr ledled y DU yn galw am sgiliau o safon uchel, mae hwn yn gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod i weithio. Allaf i ddim aros i’w gweld yn gweithredu yn y rownd derfynol.”
Yn ogystal â hyn, mae gan y Coleg gystadleuydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2025. Bydd Samantha Fernandez yn cynrychioli Grŵp Colegau NPTC mewn saernïaeth yn y gystadleuaeth, sy’n dod ag hyfforddeion adeiladu gorau’r DU ynghyd i gystadlu ar y lefel uchaf. Cynhelir y rownd derfynol ar 19–20 Tachwedd yn Arena MK, Milton Keynes.
Gyda rhagor o enwau i’w cyhoeddi dros y dyddiau nesaf, mae’n bosibl y bydd mwy o fyfyrwyr y Coleg yn cyrraedd y rowndiau terfynol.