Derbyniwyd Cymeradwyaeth Uchel gan Heather Phillips, Myfyriwr Lefel 2 mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd yn y Farchnad Masnachwyr Ifanc yng Nghroesoswallt am ei chymeriadau ffelt a wnïwyd. Mae llwyddiant Heather wedi ennill lle iddi yn rownd nesaf y gystadleuaeth a gynhelir yn Yr Wyddgrug.
Mae’r Farchnad Masnachwyr Ifanc yn fenter arobryn sy’n darparu platfform ar gyfer entrepreneuriaid ifanc i ymchwilio i fasnachu mewn marchnad. Mae’r marchnadoedd hyn yn gyfleoedd ffantastig i beilota, datblygu a thyfu syniadau busnes newydd, gan feithrin masnachwyr marchnadoedd y dyfodol.
Mae gan y masnachwyr buddugoliaethus a ddewiswyd gan Faer Croesoswallt gyfle i gystadlu yn y rownd derfynol ranbarthol yn Yr Wyddgrug ar 29 Mehefin. Bydd masnachwyr llwyddiannus wedyn yn symud ymlaen i’r rownd derfynol yn hwyrach yn y flwyddyn.