Mae Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd yn falch o ddathlu ei fyfyrwyr yn cyflawni’r Diploma Lefel 2 mewn Dylunio Gemau yn llwyddiannus, cwrs trochi sy’n para am flwyddyn ac sydd wedi tanio uchelgais creadigol, wedi magu adrodd straeon yn hyderus ac wedi grymuso myfyrwyr gyda’r sgiliau i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant gemau ffyniannus.
Yn ystod y flwyddyn, ymchwiliodd myfyrwyr i bob gam o’r broses o ddylunio gêm, yn diweddu wrth greu cysyniadau i greu gemau unigryw chwaraeadwy fel rhan o’u Prosiect Mawr Terfynol. O ddylunio gweledol a mecaneg i naratif a chodio, dangosodd dysgwyr eu dychymyg, eu gwydnwch a’u twf technegol.
“Er bod y myfyrwyr wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd – gyda rhai ohonynt yn cwblhau Lefel1 a 2 mewn TG ac eraill yn newydd i’r Coleg, roedd pob un ohonynt wedi gwneud cynnydd gwych,” dywedodd Darlithydd TG Linda Kelly. “Dyfeisiwyd gemau llawn dychymyg wedi’u strwythuro’n dda gan y myfyrwyr” ychwanegodd cyd-ddarlithydd TG Henry Black.
Mae’r cwrs wedi bod yn sbring fwrdd diamau ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, gyda phob myfyriwr yn camu ymlaen i’r cymhwyster Lefel 3 mewn Dylunio Gemau – prawf o’u hymrwymiad a’r amgylchedd blaengar a chefnogol a grëwyd gan y staff addysgu.
“Mae’r cwrs hwn yn cynnig porth go iawn i’r diwydiant gemau,” dywedodd Emma Johnson. “Os yw myfyrwyr yn breuddwydio am ddod yn ddylunwyr gemau, awduron neu’n adroddwyr straeon rhyngweithiol, rydyn ni’n eu helpu i ddysgu’r sgiliau creadigol a thechnegol i wireddu eu breuddwydion.”
Mae’r llwybr Dylunio Gemau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd yn rhan o gwricwlwm ffyniannus sy’n magu arloesedd ac yn agor y drysau i yrfaoedd yn un o’r sectorau creadigol yn y DU sy’n tyfu fwyaf oll.
I ddarganfod mwy am Ddylunio Gemau: Datblygiad mewn Technolegau Creadigol a Digidol neu gyrsiau eraill sydd ar y gweill ac er mwyn ymrestru yn y dyfodol cliciwch y dolen isod.