Daeth Esme Perry, sef myfyriwr talentog Lefel 3 mewn Celf yng Ngholeg Y Drenewydd â lliwiau a chreadigrwydd i theatr Hafren gyda murlun graffiti trawiadol newydd. Dewiswyd ei dyluniad fel y cais buddugoliaethus mewn Cystadleuaeth Murluniau Graffiti rhanbarthol, a oedd yn agored i bob myfyriwr ôl-16 ar draws Sir Fynwy.
Roedd y gystadleuaeth a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Celf Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn gwahodd myfyrwyr i ymchwilio i’r thema ganlynol “Beth yw ystyr democratiaeth i chi” trwy gyfwng celf graffiti. Mae’r murlun buddugoliaethus i’w weld ar y wal y tu allan i far y theatr.
Canmolwyd dyluniad Esme a oedd yn cwmpasu tair colomen wen gyda blodau lliwgar o’i gwmpas am ei symbolaeth a’i effaith artistig. Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys arlunydd graffiti o Ogledd Cymru Dime One (Andy Birch) ac Aelod Seneddol Sir Fynwy Steven Witherden.
Ar ôl ei buddugoliaeth, cafodd Esme y cyfle unigryw i gydweithredu â Dime One i ddod â’i dyluniad yn fyw ar wal y theatr. Mae’r canlyniad yn osodiad celf gadarn ac ysbrydoledig sydd wedi tynnu sylw ymwelwyr yn barod.
Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd Esme:
“Mae wedi bod yn gyfle ffantastig. Dwi wedi dysgu sut gymaint ac wedi datblygu sgiliau newydd mewn maes celf a oedd yn hollol newydd i fi. Roedd gweithio ochr yn ochr ag arlunydd graffiti proffesiynol yn uchafbwynt go iawn.”
Ychwanegodd Sara Clutton Rheolwr y Theatr:
“Mae’r dyluniad terfynol yn drawiadol dros ben. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad ac yn falch i gefnogi prosiect mor ystyrlon a chreadigol. Mae wedi bod yn brofiad ffantastig i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono.”