Mae prentis talentog o Goleg Y Drenewydd wedi cael ei gydnabod am gyflawniad rhagorol mewn adeiladwaith, gan dderbyn Gwobr Prentisiaeth Adeiladwaith Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru 2025.
Cyflwynwyd y wobr i Helen Breese, prentis Adeiladwaith Lefel 3, gan yr Athro John Solbe a Dr Rosie Solbe o Gwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru yn ystod seremoni ddathlu a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drenewydd. Mynychwyd y digwyddiad gan Clare Ward, Swyddog Prentisiaethau o Hyfforddiant Pathways, a chynrychiolwyr o Barcud, y gymdeithas dai lle cwblhaodd Helen ei phrentisiaeth.
Mae Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru, a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl, wedi ymrwymo i feithrin talent ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a phroffesiynau medrus. Nod ei wobrau yw cefnogi a dathlu cyflawniadau pobl ifanc sy’n dangos addewid ac ymroddiad eithriadol.
Enillodd Helen Ragoriaeth Ddwbl yn ei chymhwyster Contractio Adeiladwaith Lefel 3, gan adlewyrchu ei rhagoriaeth academaidd a’i sgiliau ymarferol. Cwblhaodd ei phrentisiaeth gyda Barcud, cymdeithas dai sydd wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau cymorth tai o ansawdd uchel ledled Ceredigion a Phowys.
“Mae Helen wedi bod yn ddysgwr eithriadol o’r cychwyn cyntaf,” meddai Clare Ward, Asesydd Pathways yng Ngrŵp Colegau NPTC. “Mae ei hymrwymiad i agweddau academaidd ac ymarferol ei hyfforddiant wedi bod yn rhagorol. Dangosodd fenter, cywirdeb a phroffesiynoldeb yn gyson yn ei gwaith gyda Barcud, ac mae ei Rhagoriaeth Ddwbl yn dyst i’w gwaith caled a’i thalent. Mae Helen yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gall prentisiaethau ei gyflawni. Nid yn unig y mae hi wedi ennill cymhwyster ond mae hi wedi tyfu i fod yn weithiwr proffesiynol hyderus a galluog sy’n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y diwydiant adeiladwaith.”
Ychwanegodd Helen Breese: “Mae ennill Gwobr y Lifrai yn anrhydedd enfawr, rydw i wedi tyfu mewn hyder diolch i’r cymorth gan Barcud a fy nhiwtoriaid ac mae wedi fy ysgogi hyd yn oed yn fwy i ddilyn gyrfa mewn adeiladwaith. Rwyf nawr yn astudio am yr HNC mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, rhan o Grŵp Colegau NPTC. Gobeithio y bydd fy nhaith yn ysbrydoli eraill i ystyried prentisiaethau fel llwybr i lwyddiant.”
Mae cymorth Barcud i brentisiaethau yn adlewyrchu ei genhadaeth ehangach i fuddsoddi mewn talent lleol, creu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon, a chryfhau cymunedau trwy ddatblygu tai cynaliadwy a gwasanaethau cynnal a chadw.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r gwefannau canlynol: