Dathlu Llwyddiant Myfyrwyr: Graddedigion Gofal a Llesiant yn Symud Ymlaen i Astudiaethau Ôl-raddedig a Gyrfaoedd Addysgu

Graduates Claire Evans, Ria May and Maxine O'Keefe with their tutor Concetta Zicchieri in robes at Graduation.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o ddathlu cyflawniadau rhagorol myfyrwyr o’r rhaglenni BSc (Anrh) Gofal a Llesiant a Thystysgrif AU mewn Arferion Gofal, wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu teithiau academaidd a phroffesiynol.

Mae pedwar o raddedigion o’r rhaglen BSc (Anrh) Gofal a Llesiant; Caitlin Shearan, Claire Evans, Ria May a Maxine O’Keefe, wedi ennill lleoedd ym Mhrifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Hyrwyddo Iechyd, gan barhau â’u hymrwymiad i wella iechyd a llesiant cymunedol.

Yn y cyfamser, bydd Gemma Thomas a Charlotte Humphrey yn parhau â’u hastudiaethau Addysg Uwch yng Ngholeg Afan trwy astudio ar gyfer eu cymwysterau TBAR. Bydd Gemma yn cefnogi dysgwyr mewn Astudiaethau Sylfaen, tra bydd Charlotte yn cyfrannu at y cwricwlwm Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant, sy’n dyst i’w hymroddiad ac ymrwymiad y coleg i feithrin addysgwyr y dyfodol.

O’r rhaglen Tystysgrif AU mewn Arferion Gofal, mae Molly Pascoe yn paratoi i ddechrau ei hyfforddiant nyrsio. Bydd Isabel Morriss hefyd yn mynd i Brifysgol Abertawe, lle bydd hi’n astudio am radd mewn Gwaith Cymdeithasol, gan barhau â’i thaith tuag at wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau eraill.

Astudiodd yr holl fyfyrwyr hyn yng Ngholeg Campws Prifysgol Afan, lle cawsant eu cefnogi gan dîm ymroddedig ac ysbrydoledig o staff addysgu a chwaraeodd ran hanfodol wrth eu helpu i gyflawni eu nodau a pharatoi ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd.  Roeddem wrth ein bodd yn dathlu eu cyflawniadau’n ffurfiol yn Seremoni Graddio’r mis diwethaf yn Neuadd Gwyn, Castell-nedd, digwyddiad cofiadwy a gydnabu gwaith caled a llwyddiant ein myfyrwyr addysg uwch.  Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled, gwydnwch ac angerdd ein myfyrwyr, yn ogystal â’r amgylchedd dysgu cefnogol a feithrinir gan ein staff. Dymunwn y gorau i’n holl raddedigion yn eu hymdrechion yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith y byddant yn ei chael yn eu meysydd dewisol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs lefel prifysgol ym meysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, gallwch ddysgu mwy am ein cyrsiau ar ein gwefan.

Cyrsiau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Plant

Capsiwn Llun: Y graddedigion Claire Evans, Ria May a Maxine O’Keefe gyda’u tiwtor Concetta Zicchieri.