Dathlu Prentisiaethau gydag Academi Sgiliau Cymru

Skills Academy Wales Award winners 2026

Roedd Coleg Castell-nedd yn llawn bywyd wrth i brentisiaid, cyflogwyr, teuluoedd a darparwyr hyfforddi ar draws Cymru ddod at ei gilydd ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Academi Sgiliau Cymru (SAW) – noson ddisglair i gydnabod cyflawniadau ac uchelgais rhagorol.

Roedd y dathliad yn nodi lansiad Wythnos Prentisiaethau, a gynhelir o Chwefror 9 tan 13 Chwefror, sydd yn tynnu sylw ar lwyfan cenedlaethol at effaith trawsnewidiol prentisiaethau ar unigolion, cymunedau ac economi Cymru.

Ers ei sefydliad yn 2009, mae SAW wedi dod yn un o’r partneriaethau Dysgu Seiliedig ar Waith arweiniol yng Nghymru. Dan arweinyddiaeth Grŵp Colegau NPTC a gyda chymorth 14 o ddarparwyr hyfforddi annibynnol, mae’r bartneriaeth yn darparu rhaglenni hyblyg o ansawdd uchel a ddyluniwyd i gefnogi pobl ifanc, y rheiny sy’n ceisio swyddi a’r rheiny sydd eisoes yn gweithio i ddatblygu sgiliau newydd a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Daeth y noson wobrwyo ag ystod eang o westeion at ei gilydd, yn cynnwys prentisiaid, cyflogwyr, rhieni ac urddasolion megis Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a Jeremy Miles, AS Castell-nedd. Roedd yn gyfle i dynnu sylw at yr ymrwymiad rhagorol a ddangoswyd gan ddysgwyr trwy gydol eu llwybrau prentisiaethau – a’r cynnydd anhygoel a wnaethpwyd ganddynt ar hyd y daith.

Roedd yr amrywiaeth gymysg o gategorïau ar gyfer y gwobrau yn adlewyrchu’r ystod o gyfleoedd prentisiaethau sydd ar gael ar draws Cymru. Roedd enillwyr yn cynrychioli meysydd mor amrywiol â pheirianneg awyrenegol, nyrsio deintyddol, gweinyddiaeth fusnes, cyfrifeg, barbro a gyrru trenau hyd yn oed – yn arddangos ehangder y doniau sy’n cael eu meithrin ar draws y genedl.

Wrth siarad yn y digwyddiad, pwysleisiodd Mr Sargeant bwysigrwydd dathlu prentisiaid a’r rhan annatod y maent yn chwarae yn nyfodol Cymru: Mae prentisiaethau yn allweddol i economi Cymru. Dwi’n gwybod yn union pa mor bwysig.

ydyw i’w eu dathlu am fy mod yn arfer bod yn brentis. Dwi’n deall y gwaith caled y mae pawb yn ei gyflawni – dim jest y dysgwr ond y darparwr hyfforddi a’r cyflogwr. Mae dod at ein gilydd i ddathlu a hyrwyddo prentisiaethau ac ysbrydoli eraill i’w hystyried yn beth gwych i’w wneud. Llongyfarchiadau i bawb.”

Roedd y noson yn fwy na dathliad o gyflawniadau, roedd hefyd yn ffordd o atgoffa pawb mewn dull trawiadol o’r cyfleoedd trawsnewidiol sy’n cael eu creu gan brentisiaethau – a’r dyfodol disglair sy’n cael ei adeiladu ganddynt ledled Cymru.