Mae Grŵp Colegau NPTC yn Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026

Apprenticeship Week text, logos and dates, English and Welsh

Mae Grŵp Colegau NPTC yn dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026, a gynhelir o 9-15 Chwefror, gan dynnu sylw at yr effaith drawsnewidiol y mae prentisiaethau yn cael ar unigolion, cyflogwyr a chymunedau ar draws Cymru.  Fel rhan o’r dathliadau sy’n para am wythnos gyfan, bydd y Grŵp yn croesawu’r Seremoni Wobrwyo Prentisiaethau Flynyddol Academi Sgiliau Cymru o fri yng Ngholeg Castell-nedd ar 9 Chwefror.

Prentisiaethau: Ein Llwybr i Ennill, Dysgu a Symud Ymlaen

Ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo nad yw astudiaethau amser llawn yn cynnig y llwybr cywir, mae prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC yn cynnig llwybr amgen perffaith – yn galluogi dysgwyr i ennill cymwysterau, cael cyflog a dechrau ar yrfa.

Trwy gyfrwng Hyfforddiant Pathways, mae Grŵp Colegau NPTC yn darparu cymwysterau o ansawdd uchel, wedi’u teilwra’n arbennig ac a gydnabyddir gan ddiwydiannau ar draws De-orllewin Cymru a’r Canolbarth. Mae aseswyr yn dod ag arbenigedd sylweddol ym maes diwydiant i gefnogi dysgwyr a chyflogwyr ar bob cam o’r brentisiaeth.

Mae’r Grŵp wedi creu partneriaethau cadarn a llwyddiannus gyda chyflogwyr arweiniol yn cynnwys DVLA, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Undeb Rygbi Cymru (WRU), a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Mae prentisiaethau yn cynnig y cyfle i ennill cyflog ar yr un pryd ag ennill profiad go iawn yn y byd gwaith a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gellir cynnal hyfforddiant:

  • Yn y gweithle
  • Yn y coleg ar sail ran-amser
  • Mewn canolfan hyfforddiant, yn wythnosol neu gyfres o sesiynau mewn bloc
  • Yn y brifysgol ar gyfer llwybrau lefel uwch neu raddau

Mae llu o lwybrau ar gael, o Lefel 2 (Sylfaen) hyd at Brentisiaethau Gradd, mewn sectorau yn cynnwys:

Cyfrifeg • Amaethyddiaeth • Mecaneg Amaethyddol • Gweinyddiaeth Fusnes • Iechyd a Gofal Iechyd Clinigol • Gofal Plant a Gwaith Chwarae •Adeiladwaith • Gwasanaethau Cwsmeriaid • Peirianneg • Lletygarwch • Cerbydau Modur • Atgyweirio Cyrff Cerbydau • Manwerthu• Arwain Tîm a Rheoli

I ymgeisio, rhaid bod yr unigolyn yn  byw neu’n gweithio yng Nghymru, yn  cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos a heb fod mewn addysg amser llawn.

Bob blwyddyn, mae Hyfforddiant Pathways yn cefnogi cannoedd o brentisiaid wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.  Mae’r rhaglenni hyn o fudd  i’r unigolyn ond maent hefyd yn cryfhau economïau lleol a rhanbarthol trwy greu swyddi, cadw dawn a sefydlu partneriaethau cadarn â chyflogwyr.

Cliciwch y botwm isod i gael mwy o wybodaeth am brentisiaethau gwag sydd ar gael ar hyn o bryd, straeon llwyddiannus a’r ystod eang o gyfleoedd a geir yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Hyfforddiant Pathways – Prentisiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC

Dathlu Rhagoriaeth: Gwobrau Prentisiaethau Blynyddol Academi Sgiliau Cymru

Bydd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn dechrau gyda’r Seremoni Flynyddol i Wobrwyo Prentisiaethau a groesawir gan Goleg Castell-nedd ar 6 Chwefror 2026, i gydnabod prentisiaid ar draws De Cymru a’r Canolbarth.  Mae’r seremoni yn cydnabod yr ymrwymiad rhagorol a ddangosir gan ddysgwyr tuag at eu hastudiaethau a’r cynnydd syfrdanol a wnaethpwyd ganddynt drwy gydol eu prentisiaethau.

Mae Academi Sgiliau Cymru, a sefydlwyd yn 2009 ac a dathlodd ei phymthengmlwyddiant yn 2024, yn ddarparwr arweiniol o Ddysgu Seiliedig ar Waith ac yn bartneriaeth o 14 o ddarparwyr hyfforddiant o fri. Dan arweinyddiaeth Grŵp Colegau NPTC, mae’r bartneriaeth yn darparu rhaglenni hyblyg o ansawdd uchel wedi’u teilwra i fodloni anghenion pobl ifanc, y rheiny sy’n ddi-waith a phobl sydd eisoes yn rhan o’r farchnad gwaith.

Dros y pymtheng mlynedd ddiwethaf, mae’r bartneriaeth wedi cyflogi dros 23,000 o brentisiaid, yn chwarae rhan annatod yn y broses o ddatblygu gweithlu medrus ac yn cryfhau economi Cymru.  Mae aelodau yn cynnwys:

ACO Training Ltd • Coleg y Cymoedd • Catapwlt • Gweithlu Cymru • Learnkit Ltd •Hyfforddiant LRC • Gwasanaethau Hyfforddi Myrick • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot • Pengwin • Protech Training Academy • Sirius Skills Ltd • Tooth Fairies Ltd • Gwasanethau Ambiwlans Cymru

Gyda’i gilydd, mae’r partneriaid hyn yn darparu prentisiaethau ar draws De Cymru a’r Canolbarth – gyda darpariaeth arbenigol yn cyrraedd Gogledd Cymru – gan sicrhau bod dysgwyr a chyflogwyr yn cael y budd o brofiad helaeth yn y diwydiant a chymorth cydweithredol cadarn.

Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n para am wythnos ac sy’n dathlu prentisiaethau a pha mor werthfawr ydynt i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru.

Wrth ddod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, mae Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith a gyflawnir ar draws y gymuned brentisiaethau i hyrwyddo eu heffaith gadarnhaol ar draws Cymru gyfan.

Mae prentisiaethau yn parhau i:

  • Ddatblygu sgiliau diwydiannol hanfodol.
  • Creu cyfleoedd gwaith cynaliadwy.
  • Cynnal a chadw dawn leol.
  • Cryfhau cysylltiadau â busnesau a’r gymuned.

Gyda galw am weithwyr medrus yn parhau i gynyddu ar draws Cymru, mae Grŵp Colegau NPTC y dal i fod yn ymrwymedig i gynnig llwybrau prentisiaeth o ansawdd uchel sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd boddhaol ac ystyrlon.

Cliciwch ar y botwm isod am fwy o wybodaeth am Wythnos Prentisiaethau Cymru a sut y gallwch fod yn rhan ohoni.

Wythnos Prentisiaethau Cymru