Cydnabuwyd Claire Llewellyn sef myfyriwr BSc (Anrh) Gofal a Llesiant yng Ngholeg Afan am ei chyfraniad grymus a hynod o bersonol ar ymwybyddiaeth o iechyd cyhoeddus, ar ôl ysgrifennu erthygl ar gyfer Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn seiliedig ar ei phrofiad personol o fyw gyda gorbwysedd.
Mae Claire, sydd ar hyn o bryd yn cyflawni blwyddyn derfynol ei gradd, wedi troi digwyddiad chwyldroadol yn neges gobaith, addysg ac atal i bobl eraill. Mae ei phenderfyniad i ddefnyddio ei llais a’i phrofiad bywyd i ddiogelu eraill wedi cael effaith sylweddol yn barod, gyda’i gwaith yn cael ei gydnabod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi’i rannu ar draws rhwydweithiau proffesiynol.
Dywedodd Claire: “Yn 2019, dyna gnoc ar fy nrws gan y lladdwr distaw – gorbwysedd. Ar ôl blynyddoedd o fod gartre ac yn dioddef iselder ysbryd, penderfynais ddychwelyd i’r coleg. Wnes i gyflawni Lefel 4 a 5 a nawr dwi’n astudio Lefel 6 mewn Iechyd a Llesiant ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Rhoddwyd hyn y cyfle i fi ddefnyddio fy mhrofiad bywyd mewn dull ystyrlon. Roedd hyd yn oed wedi annog fy narlithydd Sharon i gymryd ei meddyginiaeth ac roedd yn helpu pobl o bob oedran i ddechrau gwrando ar y neges.
“Cafodd fy ymgyrch, a grëwyd gyda fy nghyd-fyfyriwr Rachael, ei henwi ‘The Silent Killer’, a dyna oedd man cychwyn popeth. Mae ‘Silent Killer: My Story yn ffilm ymwybyddiaeth fer am orbwysedd a chanlyniadau ofnadwy peidio â chymryd meddyginiaeth presgripsiwn. Mae’r ffilm yn rhannu fy mhrofiad personol o gael diagnosis o bwysedd gwaed uchel;, teimlo’n dda, a heb sylweddoli’r risgiau difrifol perthnasol o beidio â chymryd meddyginiaeth presgripsiwn. Yn aml, nid oes unrhyw symptomau gyda gorbwysedd, ffaith a all wneud i bobl fychanu’r perygl. I fi, arweiniodd hyn at waedlif ar yr ymennydd, niwed i’r ymennydd ac epilepsi.
“Mae’r prosiect hwn yn bwysig am ei fod yn rhoi wyneb go iawn i gyflwr anweladwy ac yn tanlinellu sut mae tabled syml bob dydd yn gallu atal deilliannau chwyldroadol. Mae fy ffilm yn adroddiad personol o lygad y ffynnon o fyw gyda gorbwysedd heb ei drin a’i effaith yn y tymor hir. Dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar y daith hon, yn arbennig Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os oes modd i mi achub un unigolyn rhag mynd trwy’r gofid calon a oedd yn wynebu fy nheulu, wedyn dwi’n teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth cymdeithasol.”
Gallwch ddarllen erthygl Claire yn ei chyfanrwydd ar dudalen 15 o’r e-Fwletin Rhwydwaith Cymru Iechyd Cyhoeddus mis Chwefror 2026 – “Ways of working: an opportunity to share any tools, frameworks or approaches which help you with your work.”