Mae Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr o’i rôl yn ddiweddarach eleni, gan ei disgrifio fel “y fraint fwyaf yn fy mywyd proffesiynol”.
Yn dilyn 22 mlynedd hynod lwyddiannus yn y rôl a dros 40 mlynedd mewn Addysg Bellach, cadarnhaodd Mark ei fwriad i Fwrdd y Gorfforaeth a rhannodd y newyddion gyda’i gydweithwyr, gan gydnabod nad oedd y penderfyniad wedi bod yn un hawdd.
“Arwain y Coleg fu’r fraint fwyaf yn fy mywyd proffesiynol. O’r cynllun adfer yn 2004, i’r uno a greodd Grŵp Colegau NPTC yn 2013 i’r cadarnhad diweddar o’n statws fel un o ddarparwyr cryfaf Cymru yn dilyn ein harolygiad diweddaraf,” meddai.
Diolchodd i gydweithwyr ar draws y Grŵp, gan bwysleisio bod cyflawniadau’r Coleg wedi’u hadeiladu ar ymroddiad, proffesiynoldeb a gofal am y dysgwyr.
“Gyda’n gilydd, rydym wedi gweld y Coleg yn esblygu i fod yn sefydliad blaenllaw yn y sector gydag wyth campws yn gwasanaethu cymunedau ar draws traean o Gymru, gyda chyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn cyfrannu at ddiwydiannau sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys yr agenda sgiliau gwyrdd a’r Academi Hyfforddi Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW).
“Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i adeiladu. Rwy’n arbennig o falch o ansawdd cyson uchel yr addysgu a phrofiad y dysgwr, a adlewyrchir mewn cydnabyddiaeth genedlaethol, gwobrau sector, a’n cyfradd argymell myfyrwyr ddiweddaraf o 95%.”
Dros y misoedd nesaf, bydd Mark yn gweithio’n agos gyda Bwrdd y Gorfforaeth a’r Tîm Gweithredol i sicrhau trosglwyddiad llyfn a threfnus.
Wrth roi sylw ar y newyddion, dywedodd Dr Rhobert Lewis, Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth: “Mae’r Bwrdd yn dymuno mynegi ei ddiolch i Mark am bron i 23 mlynedd o arweinyddiaeth eithriadol o lwyddiannus. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae enw da’r Grŵp am ansawdd ei addysg a’i hyfforddiant a’i safle fel sefydliad entrepreneuraidd a blaengar, wedi ennill clod cenedlaethol haeddiannol.
“Mae gwaddol Mark fel Prif Weithredwr yn sylweddol iawn, gyda nifer o lwyddiannau ar raddfa a gyflawnwyd yn anaml gan unrhyw bennaeth coleg yn y sector. O ganlyniad i arweiniad Mark, mae ein grŵp o golegau mewn sefyllfa ardderchog i ymdopi ag unrhyw heriau yn y dyfodol.
“Bydd gennym y fraint o ddiolch yn ffurfiol i Mark am ei wasanaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd y Llywodraethwyr yn cyfarfod yn fuan i benderfynu ar broses ac amseriad penodi ei olynydd. Yn y cyfamser, bydd Mark yn parhau i arwain y Grŵp fel Prif Weithredwr a chynghori’r corff llywodraethu fel y mae wedi gwneud mewn modd mor llwyddiannus yn y gorffennol”.